Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Ar gopa Affrica

29 Hydref 2010

(O'r chwith i'r dde) Rob Howley, Melanie Noble, Dr Simon Noble, Warren Gatland

Ymunodd un o ddarlithwyr amlycaf y Brifysgol mewn Meddygaeth Liniarol â rhai o gapteiniaid rygbi enwocaf Cymru wrth ddringo’n llwyddiannus i gopa uchaf Affrica.

Llwyddodd Dr Simon Noble, o’r Ysgol  Feddygaeth, i gyrraedd copa Mynydd Kilimanjaro yn llwyddiannus - gan ymuno â'r cyn-gapteiniaid Ieuan Evans, Gareth Thomas, Scott Gibbs, Scott Quinell, Garin Jenkins a Rob Howley a Warren Gatland, hyfforddwr presennol Cymru wrth wneud hynny.

"Roedd cyrraedd copa uchaf Affrica yn gamp bersonol anhygoel i mi ac yn ddi-os dyma un o'r heriau anoddaf i mi erioed. Roedd y ffaith fy mod i'n gallu gwneud hyn gyda chefnogaeth ac ymrwymiad rhai o chwaraewyr rygbi enwocaf Cymru yn fantais anhygoel," meddai Dr Noble.

"Yn bwysicach na hynny, llwyddon ni i godi arian i elusen anhygoel i helpu i ariannu ymchwil i ganser yr ysgyfaint ac i godi ymwybyddiaeth o'r clefyd," ychwanegodd.

Dr Noble oedd yr unig aelod o'r Brifysgol o Brains SA Captains’ Climb - dringo elusennol i helpu i godi £1m i apêl Cam wrth Gam Canolfan Canser Felindre.

Y gŵr a'r wraig, Dr Simon Noble a Melanie Noble ar gopa Kilimanjaro.

Huw Evans y ffotograffydd feddyliodd am y syniad o ddringo fel hyn. Cafodd Sue ei wraig ddiagnosis canser yr ysgyfaint yn 2008.

Mae Dr Noble yn Uwch-ddarlithydd Clinigol mewn Meddygaeth Liniarol yn yr Ysgol Feddygol ac mae'n feddyg ymgynghorol yn y GIG.

Ei brif ddiddordebau ymchwil yw rheoli thrombo-emboleddau gwenwynig mewn canser datblygedig ac effeithiau gwrthganser heparinau. Mae'n ymwneud ar lefel Brydeinig â chyflenwi thromboproffylacsis ar sail tystiolaeth i gleifion ysbyty drwy'r Grŵp Thrombosis Amlbleidiol a Fforwm Thromboproffylacis y DU.

Hefyd mae'n Ymddiriedolwr ac yn Gyfarwyddwr Meddygol (Cymru) i Lifeblood: yr Elusen Thrombosis ac c yn gadeirydd Grŵp Thromboproffylacsis Cymru gyfan.

Ar hyn o bryd mae Dr Noble yn gyd-archwilydd i FRAGMATIC - hap-brawf gyda rheolydd mewn nifer o ganolfannau i archwilio effaith dalteparin ar oroesi mewn canser yr ysgyfaint.

Ychwanegodd Dr Noble: "Drwy godi proffil maes ymchwil sy'n cael cyhoeddusrwydd gwael oherwydd bod pobl yn cysylltu canser yr ysgyfaint ar gam ag ysmygu - rydyn ni'n gobeithio cyflawni'r cyfraddau goroesi y mae canserau eraill eisoes wedi'u cyrraedd. Mae'n faes lle mae angen arian a bydd y fenter hon yn ein helpu ni i wneud hyn."

I gael rhagor o wybodaeth am y dringo neu i gyfrannu i'r apêl, ewch i: www.captainsclimb.com/