Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

PHEW 2011

16/05/2011

PHEW 2011

Rafftio dŵr gwyn, Tai Chi, Zumba a gwiriadau iechyd am ddim – dim ond rhai o’r gweithgareddau y gall staff roi cynnig arnynt fel rhan o’r Wythnos Iechyd ac Amgylchedd Cadarnhaol (PHEW) eleni.

Mae PHEW, sy’n cael ei gynnal yn flynyddol, yn rhoi cyfle i staff roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau sy’n ymwneud ag iechyd, lles a’r amgylchedd.  Dyma weithgareddau rhad ac am ddim ac fe’u cynigir ledled y campws ac mewn nifer o leoliadau allanol er mwyn caniatáu i gynifer o staff â phosibl gymryd rhan ynddynt.

Cynhelir PHEW o ddydd Llun 27 Mehefin i ddydd Gwener 8 Gorffennaf, a gall staff gymryd rhan mewn hyd at bum gweithgaredd yn ystod oriau gwaith arferol (yn ôl disgresiwn eu rheolwr llinell) a faint bynnag o weithgareddau ag y dymunant yn ystod oriau cinio neu’r tu allan i oriau gwaith.

Mae amserlen y digwyddiadau ar gael ar wefan PHEW yn www.caerdydd.ac.uk/phew ac mae nifer fach o weithgareddau i’w cadarnhau. I gael y newyddion diweddaraf am y rhaglen ac unrhyw ddiweddariadau i’r amserlen, anfonwch neges e-bost at phew@caerdydd.ac.uk a gofynnwch am gael ymuno â’r rhestr bostio.

 

PHEW – Beth sy’n Digwydd

Bydd PHEW 2011 yn lansio ddydd Llun 27 Mehefin 2011 gyda nifer o weithgareddau sydd wedi bod yn hynod boblogaidd yn y gorffennol, neu y mae nifer sylweddol o staff wedi gofyn amdanynt eleni:

  • Profion colesterol
  • Profion diabetes
  • Sgrinio’r prostad
  • Nofio am ddim
  • Adweitheg – bydd apwyntiadau ar gael mewn lleoliadau amrywiol ar draws campws y Brifysgol
  • Tylino’r corff – bydd apwyntiadau ar gael mewn lleoliadau amrywiol drwy gydol y dydd
  • Dadansoddiad o Gerddediad gan ‘MOTI’
  • Taith amser cinio o amgylch Castell Caerdydd
  • Taith o amgylch Stadiwm y Mileniwm
  • Dosbarth Tai Chi
  • Zumba
  • Tai Chi
  • Bocsio a Thynhau’r Cyhyrau
  • Dringo Dan Do yn Boulders
  • Casgliad Banc Bwyd

 

Dydd Mawrth 28 Mehefin 2011       

  • Profion colesterol
  • Profion diabetes
  • Sgrinio’r prostad
  • Nofio am ddim
  • Adweitheg
  • Rheoli Amser
  • Y Llwybr at Hunan-barch Da
  • Taith o amgylch Stadiwm Dinas Caerdydd
  • Taith o amgylch Canolfan Gofal Dydd y Brifysgol
  • Badminton i ddechreuwyr
  • Badminton i chwaraewyr canolradd
  • Dawnsio llinell
  • Nofio am ddim
  • Zumba
  • Casgliad Banc Bwyd

           
Dydd Mercher 29 Mehefin 2011

  • Brecwast Beicio
  • Sgrinio’r prostad
  • Profion colesterol
  • Profion diabetes
  • Gwiriadau iechyd
  • Nofio am ddim
  • Dadansoddiad o Gerddediad gan ‘MOTI’
  • Rheoli Straen
  • Byw gydag Ansicrwydd
  • Cael Gobaith ac Ystyr o Ddioddefaint
  • Dringo Dan Do yn Boulders
  • Pilates
  • Sesiwn BodyPump
  • Casgliad Banc Bwyd

           
Dydd Iau 30 Mehefin 2011

  • Ffotograffiaeth Fundus
  • Gwiriadau Ffitrwydd
  • Sgrinio’r prostad
  • Profion diabetes
  • Profion colesterol
  • Sut i Beidio â Cholli Ffrindiau a Gwneud Gelynion
  • Perffeithiaeth
  • Cinio’r Gaplaniaeth
  • Adweitheg
  • Tylino’r corff
  • Zumba
  • Pencampwriaeth pêl-droed 7 bob ochr y staff
  • Casgliad Banc Bwyd

Dydd Gwener 1 Gorffennaf 2011

  • Sgrinio’r prostad
  • Profion diabetes
  • Profion colesterol
  • Nofio am ddim
  • Taith o amgylch Adeilad Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Defnyddio Alcohol a Chyffuriau: Gwybodaeth i Chi ac Eraill
  • Diolch Byth, mae’n Benwythnos!
  • Tai Chi
  • Sesiwn Body Combat
  • Casgliad Banc Bwyd

Dydd Llun 4 Gorffennaf 2011

  • Ffotograffiaeth Fundus
  • Profion colesterol
  • Profion diabetes
  • Sgrinio’r prostad
  • Nofio am ddim
  • Adweitheg
  • Tylino’r corff
  • Sboncen i Ddechreuwyr
  • Sboncen i Chwaraewyr Canolradd
  • Zumba
  • Pilates
  • Casgliad Banc Bwyd

Dydd Mawrth 5 Gorffennaf 2011

  • Ffotograffiaeth Fundus
  • Profion colesterol
  • Profion diabetes
  • Sgrinio’r Prostad
  • Nofio am ddim
  • Gwiriadau ar fannau geni
  • Gwiriadau Calon Iach
  • Profion Anoddefedd Bwyd
  • Profion alergedd
  • Y Llwybr i Hunan-barch Da
  • Dawnsio llinell
  • Zumba
  • Tylino’r Pen trwy ddull Indiaidd
  • Casgliad Banc Bwyd

Dydd Mercher 6 Gorffennaf 2011

  • Gwiriadau pwysedd gwaed a phrofion cyfansoddiad y corff
  • Profion colesterol
  • Profion diabetes
  • Sgrinio’r prostad
  • Nofio am ddim
  • Profion anoddefedd bwyd
  • Gwiriadau pwysedd gwaed a phrofion cyfansoddiad y corff
  • Profion alergedd
  • Gwiriadau calon iach
  • Gwiriadau ar fannau geni
  • Gwneud synnwyr o alar: gweithdy i unrhyw un sy’n dioddef yn sgil colli rhwun annwyl
  • Pilates
  • Tai Chi
  • Ioga
  • Casgliad Banc Bwyd

Dydd Iau 7 Gorffennaf 2011

  • Ffotograffiaeth Fundus
  • Profion colesterol
  • Profion diabetes
  • Sgrinio’r prostad
  • Athroniaeth i Ddechreuwyr
  • Cerddoriaeth Roc a Phop y 1960au
  • Ysgrifennu Creadigol i Ddechreuwyr
  • Groeg i Ddechreuwyr
  • Rwsieg i Ddechreuwyr
  • Croateg i Ddechreuwyr
  • Tsieinëeg i Ddechreuwyr
  • Arabeg i Ddechreuwyr
  • Yn Ddigwsg yn y Ddinas
  • Taith o amgylch Canolfan Gofal Dydd y Brifysgol
  • Zumba
  • Dringo Dan Do yn Boulders
  • Nofio am ddim
  • Casgliad Banc Bwyd

Ddydd Gwener, 8 Gorffennaf, bydd PHEW 2011 yn dod i ben gyda diwrnod galw heibio, o 11am tan 2pm, yn Oriel Viriamu Jones, y Prif Adeilad, Plas y Parc.

Bydd amrywiaeth o weithgareddau ar gael yn y diwrnod galw heibio, gan gynnwys creu digrifluniau, cael blas ar ffrwythau, salad a chawl, a bydd amrywiaeth o sefydliadau’n cynnal stondinau er mwyn i aelodau staff alw heibio i gael cyngor, cymorth neu wybodaeth. 

Bydd staff o siop John Lewis hefyd yn bresennol gyda chynrychiolaeth o fwy na 10 o’u brandiau harddwch – Origins, Kiehls, Dr Hauschka, Benefit, Estee Lauder, Clinique, Lancome, Guerlain, Clarins, Laura Mercier a Dior. Byddant yn cynnig gwneud colur am ddim, rhoi cyngor ar golur, tylino’r dwylo a’r breichiau a bydd bagiau nwyddau am ddim ganddynt, ymhlith pethau eraill.

Bydd casgliad banc bwyd hefyd yn cael ei gynnal drwy gydol y pythefnos fel y gall aelodau staff helpu i gefnogi pobl sy’n dioddef caledi ariannol a’r realiti o fethu â bwydo’u hunain a’u teuluoedd.  I gael gwybodaeth lawn am sut i roi bwyd, ewch i wefan PHEW a lawrlwytho llyfryn PHEW 2011.  

Bydd diwrnod olaf PHEW hefyd yn cynnwys cyfle i roi cynnig ar rafftio dŵr gwyn yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd. Oherwydd y bu’r gweithgaredd hwn yn hynod boblogaidd y llynedd, bydd lleoedd yn cael eu dyrannu i staff trwy dynnu enwau o het.  Darllenwch y manylion yn llyfryn PHEW 2011 i gael gwybod sut i gofrestru eich diddordeb a chael gwybod pryd bydd yr enwau’n cael eu tynnu.