PHEW
15 Ebrill 2011
“Mae sicrhau bod iechyd a lles staff yn cael eu cefnogi’n hynod bwysig er mwyn sicrhau bod gennym weithlu hapus, iach a chynhyrchiol. Ers yr Wythnos Iechyd ac Amgylchedd Cadarnhaol gyntaf yn 2009, mae wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol poblogaidd yng nghalendr y Brifysgol. Mae’n amlwg o’r adborth a gawn ar ôl pob digwyddiad fod PHEW yn hwyliog ac yn werthfawr i’r staff, ac yn cyfoethogi eu profiad o weithio i’r Brifysgol,” meddai’r Athro Terry Threadgold, y Dirprwy Is-Ganghellor dros Staff ac Amrywiaeth.
Archwiliadau iechyd, cystadleuaeth bêl-droed a sesiynau blasu bwyd, dyma rai o’r digwyddiadau y gall aelodau o staff eu mwynhau yn rhan o Wythnos Iechyd ac Amgylchedd Cadarnhaol 2011. (PHEW).
Mae PHEW yn rhedeg o 27 Mehefin i 8 Gorffennaf, ac mae’n gyfle i bob aelod o staff roi cynnig am ddim ar amrywiaeth o weithgareddau sy’n gysylltiedig ag iechyd, lles a’r amgylchedd, yn ystod a’r tu allan i oriau gwaith arferol.
Mae’r mathau o weithgareddau a ragwelir ar gyfer rhaglen 2011 yn cynnwys amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd a dosbarthiadau dawnsio, yn ogystal â gweithdai, sesiynau tylino, teithiau, a gweithgareddau eraill.
Caiff amserlen lawn o ddigwyddiadau ei rhyddhau ym mis Mai a bydd staff yn gallu cadw eu lle ar ddigwyddiad wythnos ar ôl i’r rhaglen gael ei chyhoeddi. Gall staff fynychu hyd at bum gweithgaredd yn ystod oriau gwaith, gyda chaniatâd eu rheolwr llinell, a does dim cyfyngiad ar weithgareddau yn ystod amserau cinio neu ar ôl oriau gwaith.
Ceir rhagor o wybodaeth am PHEW 2011 www.cardiff.ac.uk/phew. Er mwyn cael y newyddion diweddaraf am yr hyn sy’n digwydd, yr amserlen weithgareddau a gwybodaeth am gadw lle, gall staff gofrestru ar restr bostio PHEW – gallwch fynegi diddordeb drwy e-bostio phew@cardiff.ac.uk.
Os oes gan unrhyw aelod o staff awgrym am weithgareddau yr hoffen nhw eu gweld yn cael eu cynnwys yn y rhaglen, neu pe hoffech chi wirfoddoli eich amser i redeg gweithgaredd, e-bostiwch phew@cardiff.ac.uk.

