Wythnos Iechyd ac Amgylchedd Cadarnhaol 2012
28 Mai 2012
Wrth i Wythnos Iechyd ac Amgylchedd Cadarnhaol nesáu, mae Helen Harries sy'n arwain y fenter eleni yn gadael inni gael gwybod rhagor am yr hyn y gallwn ei ddisgwyl yn nigwyddiad 2012.
"Mae PHEW 2012 yn prysur nesáu, gan ddechrau ar 12 Mehefin ac yn mynd ymlaen tan 6 Gorffennaf. Bydd manylion yr holl weithgareddau y byddwch chi'n gallu cymryd rhan ynddyn nhw ar gael i'w gweld ar wefan PHEW www.cardiff.ac.uk/phew o ddiwedd mis Mai.
“Mae PHEW yn ddigwyddiad blynyddol i staff sy'n rhoi cyfleoedd iddyn nhw roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau sy'n gysylltiedig ag iechyd, lles a'r amgylchedd. Mae'r rhain yn cynnwys amrywiaeth o archwiliadau iechyd a ffitrwydd, amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon a ffitrwydd, gweithdai a sgyrsiau, teithiau o gwmpas mannau lleol, gweithgareddau antur, a 'Diwrnod Galw Heibio' PHEW lle gallwch chi brofi rhai samplau am ddim ac ymweld â stondinau gwybodaeth.
“Yn newydd i'r rhaglen eleni mae ychydig o sesiynau iechyd lleisiol, gan gynnwys 'Inspire Choir', cyfleoedd i droi eich llaw at weithgareddau crefftau, sesiwn goginio, a Diwrnod Chwaraeon i dimau o Ysgolion gymryd rhan ynddo.
"Rhaid i fwyafrif y gweithgareddau, sydd am ddim i bob aelod o staff, gael eu bwcio ymlaen llaw gan ddefnyddio'r system bwcio ar-lein - mae manylion bwcio llawn i'r holl weithgareddau ar wefan PHEW.
"Mae aelodau o staff yn gallu mynychu hyd at bum gweithgaredd yn ystod eu horiau gwaith nodweddiadol fel y gwêl eu rheolwr yn dda, a faint fynnon nhw o weithgareddau yn ystod amser cinio neu'r tu allan i oriau gwaith. Bydd y gweithgareddau'n digwydd ar amryw o adegau ac mewn lleoliadau ar draws campws y Brifysgol a nifer o leoliadau allanol, er mwyn ceisio sicrhau bod cynifer o aelodau o staff ag sy'n bosib yn gallu cymryd rhan.
"I gael manylion llawn, gan gynnwys manylion bwcio, ewch i www.caerdydd.ac.uk/phew neu cysylltwch â ni ar x79230 neu phew@cardiff.ac.uk gydag unrhyw ymholiadau.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich gweld yn PHEW 2012!"

