Llyfrau prin yn cyrraedd
08/07/2010
Mae casgliad o lyfrau prin, a achubwyd i Gymru’n rhan o fuddsoddiad ariannol mawr ar y cyd â’r Brifysgol, wedi cyrraedd y Brifysgol.
Mae’r 14,000 o lyfrau, a gasglwyd ynghyd gan Lyfrgell Gyhoeddus Caerdydd drwy roddion, pryniadau a chymynroddion, bellach yn cael eu cadw yn Llyfrgell Celfyddydau a Dyniaethau’r Brifysgol ac yn dyddio’n ôl i’r 1470au.
Mae’r casgliad yn cynnwys 175 incwnabwla (term a ddefnyddir i ddisgrifio llyfrau a gyhoeddwyd cyn 1501, pan oedd argraffu megis dechrau), tua 500 o Feiblau prin, casgliad o gyfrolau cynnar o waith Shakespeare a nifer mawr o argraffiadau cyfyngedig o ansawdd uchel gan weisg preifat Prydain yn y 19eg a’r 20fed ganrif, ac mae bellach ar gael i ysgolheigion ei ddefnyddio at ddibenion ymchwil.
Mae gwaith ar y gweill i gatalogio, cadw a digideiddio’r casgliad fel ei fod ar gael i ymchwilwyr ac aelodau’r gymuned o Gaerdydd, Cymru a thu hwnt.
Wrth sôn am y casgliad, meddai Peter Keelan, Pennaeth Casgliadau Arbennig yn y Brifysgol: “Mae staff academaidd a myfyrwyr eisoes yn gofyn am weld cyfrolau o’r casgliad llyfrau prin. Cafodd grant ôl-ddoethuriaeth am flwyddyn ei ddyfarnu’n ddiweddar i un myfyriwr gael gweithio ar agweddau ar Lenyddiaeth Saesneg yn y casgliad, felly mae Caerdydd eisoes yn cadw’i myfyrwyr ymchwil gorau i weithio yma’n hytrach na’u bod nhw’n mynd i brifysgolion eraill i wneud ymchwil.
“Mae ymweliadau i weld y casgliad llyfrau prin wedi’u trefnu i staff o Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a bydd cyflwyniadau am y casgliad yn cael eu rhoi mewn darlith yng Nghaerdydd y mis hwn ac mewn cynhadledd ryngwladol yng Nghaeredin, felly mae’r gair yn cyflym fynd ar led am yr adnodd ymchwil newydd sydd yn Llyfrgell y Brifysgol.”
Cyhoeddodd Alun Ffred Jones, Gweinidog dros Dreftadaeth y Cynulliad Cenedlaethol yn ddiweddar y byddai’n cynnal derbyniad yn y Senedd ym mis Tachwedd i ddiolch i bawb sydd ynghlwm wrth y trefniant. Roedd Aelodau’r Cynulliad hefyd wrth eu bodd y byddai’r casgliad ar gael i’r cyhoedd ei weld yn ystod oriau agor adran Casgliadau Arbennig ac Archifau Llyfrgell y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Meddai Janet Peters, Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd Prifysgolion a Llyfrgellydd y Brifysgol: “Mae hi wedi bod yn galondid gweld cymaint o gefnogaeth y mae’r Brifysgol wedi’i chael cyn caffael y casgliad arwyddocaol hwn, yn ystod y broses a nawr. Mae’r 14,000 o lyfrau o lenyddiaethau Ewrop yn cyd-fynd yn wych â chasgliad Salisbury sydd gennym eisoes o ddeunyddiau Cymraeg a Chymreig, gan greu llyfrgell ymchwil ddyniaethau neilltuol yng Nghaerdydd am y tro cyntaf.
“Edrychwn ymlaen at arddangos y llyfrau gymaint ag sy’n bosibl drwy baratoi arddangosiadau ac yn arbennig drwy ddigideiddio sampl o weithiau. Dangosir y rhain drwy ddefnyddio meddalwedd ‘Troi’r Tudalennau’ a chiosg sgrin gyffwrdd neilltuol (fel y mae’r Llyfrgell Brydeinig yn ei ddefnyddio) yn ystod yr haf”.
Dylai unrhyw un sydd eisiau rhagor cael rhagor o wybodaeth am y llyfrau prin neu a hoffai weld y casgliad gysylltu â Peter Keelan ar estyniad 75678.

