Llyfrau prin
25 Mawrth 2010
Mae staff y Brifysgol wedi croesawu’r newyddion bod dyfodol casgliad unigryw o lyfrau prin wedi’u ddiogelu i Gymru diolch i fuddsoddiad ariannol mawr ar y cyd.
Mae’r casgliad yn cynnwys 175 o lyfrau wedi eu hargraffu cyn 1500, tua 500 o Feiblau prin, cyfrolau drama’r Adferiad a Chwarto, gan gynnwys casgliad prin o gyfrolau cynnar Shakespeare a llawer o lyfrau argraffiad cyfyngedig o ansawdd uchel gan weisg preifat ym Mhrydain yn y 19eg a’r 20fed ganrif.
Mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, mae’r Brifysgol wedi rhoi £500K tuag at gyfanswm y gost o berchenogi’r casgliad a bydd hi’n gofalu amdano ar ran y genedl.
Mae’r casgliad, sydd â chyfanswm o ryw 14,000 eitem o’r 15fed i’r 20fed ganrif. Roedd pobl yn ofni y byddai’r casgliad yn mynd ar wasgar pan benderfynwyd ei roi ar werth i’r cyhoedd. Mae rhai o’r eitemau “bron yn sicr” heb fod mewn unrhyw gasgliad llyfrgell arall yn y byd, ac mewn un llyfrgell arall yn unig mai rhai llyfrau eraill.
Nawr bydd cartref parhaol i’r casgliad yn Llyfrgell y Dyniaethau ac Astudiaethau Cymdeithasol ac ar ôl gwaith cadwraeth bydd ar gael i ymchwilwyr ac i aelodau cymuned Caerdydd, Cymru a thu hwnt.
Dr E.Wyn James, Ysgol y Gymraeg yn pwysleisio pa mor bwysig yw’r casgliad. Gwrandewch ar ei bodlediad – a recordiwyd yn Gymraeg – yma.
Your computer cannot play the audio in your browser. To fix this, you need to make sure both Javascript and Adobe Flash are available.
Get the Adobe Flash plug-in by clicking here
To find out how to enable JavaScript, check the Help option for your browser.
Cardiff University campus users
If you are on the Cardiff University campus and have problems with plug-ins or browsers, you can contact the INSRV Helpdesk on extension 74487 or visit the INSRV webpages
Croesawu’r newyddion …

Yr Athro Jonathan Osmond
Meddai’r Athro Jonathan Osmond, Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr: “Mae’r Brifysgol wedi gwneud buddsoddiad ariannol sylweddol i helpu i ddiogelu casgliad pwysig o lyfrau prin i’r Brifysgol, i ddinas Caerdydd ac i Gymru.
“Bydd cael casgliad o’r maint, dyfnder ac ansawdd hwn yn galluogi Caerdydd i symud i gynghrair uwch casgliadau ymchwil yn y dyniaethau ac i greu cyfleoedd ymchwil ar y cyd ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
“Mae’r buddsoddiad hwn nid yn unig yn diogelu’r casgliad i Gymru ond bydd hefyd o fudd i ymchwilwyr yn y dyniaethau ac yn helpu i gynyddu niferoedd y myfyrwyr dyniaethau a rhyngwladol sy’n dod i Gaerdydd.
“Bydd hefyd yn helpu i ddenu staff academaidd o ansawdd uchel mewn meysydd arbenigol i’r Brifysgol, a gyda’r cymorth ariannol ychwanegol gan elusennau ac unigolion rydym yn bwriadu ei godi dros y flwyddyn i ddod, bydd gwaith cadwraeth yn cael ei wneud ar y llyfrau, byddan nhw’n cael eu catalogio a’u digido fel eu bod ar gael i’r cyhoedd eu gweld.
“Bydd cael cartref parhaol i’r casgliad hwn yn helpu i gyfoethogi bywyd diwylliannol Cymru a Chaerdydd. Mae’r Brifysgol yn falch iddi allu helpu i ddiogelu ei ddyfodol.

Yr Athro David Boucher
Meddai’r Athro David Boucher, Pennaeth yr Ysgol Astudiaethau Ewropeaidd: “Rwyf wrth fy modd i’r casgliad hwn o lyfrau prin gael ei ddiogelu i’r Brifysgol.
“Mae diogelu’r casgliad hwn yn dangos ein hymrwymiad i’r Dyniaethau a bydd yn sicrhau, am y tro cyntaf, fod ein sylfaen ymchwil o’r ansawdd uchaf o’i gymharu â’r gorau sydd gan y DU i’w gynnig. Yn syth rydyn ni’n cael ein dyrchafu i’r categori uchaf o gasgliadau gwerthfawr a ddylai ein helpu i gael adnoddau ymchwil ychwanegol.
“Mae’r llenyddiaeth wleidyddol, foesol a theithio sydd yn y casgliad hwn o ddiddordeb ac arwyddocâd eang i aelodau’r Adran Astudiaethau Ewropeaidd, gan gynnwys fy hunan, gan fod ein meysydd ymchwil yn ymestyn o’r hen Roegwyr i’r presennol.
“Mae arwyddocâd gwleidyddol dramâu’r Adferiad, er enghraifft, yn faes ymchwil a all fod yn hynod ddeniadol ym maes hanes syniadau gwleidyddol. Bydd y casgliad hwn, o fod ar gael am y tro cyntaf, yn helpu i gyfoethogi holl fywyd diwylliannol Cymru a Chaerdydd.”

Yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, yn dysgu myfyrwyr
Meddai’r Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “Oherwydd cyfoeth a natur amrywiol y deunydd y mae’r Brifysgol wedi’i gael, mae hyn yn agor posibiliadau i amrywiaeth eang o brosiectau ymchwil a meysydd ymchwil i fyfyrwyr ôl-raddedig ar draws nifer o ddisgyblaethau, gan gynnwys y Gymraeg.
“Er enghraifft, mae llyfrau Saesneg teulu pwysig iawn mewn cylchoedd diwylliannol yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, teulu Rees o Lanymddyfri, ymysg y llyfrau yn y casgliad. Mae’r cylchoedd diwylliannol roedden nhw’n symud ynddynt ymysg diddordebau ymchwil dau aelod o staff Adran y Gymraeg, a phan ddaw’r casgliad i’r Brifysgol, bydd yn adnodd allweddol mewn unrhyw brosiect ymchwil yn y maes hwnnw.
“Yn arbennig, mae nifer o feysydd cryfder a fydd yn hybu ymchwil rhyngddisgyblaethol ar draws nifer o Ysgolion. Yn achos Ysgol y Gymraeg, mae mwy a mwy o ddiddordeb ymchwil mewn llenyddiaeth teithio ac astudiaethau darlunio, dau faes sy’n gryfderau mewn Ysgolion eraill ac sy’n arbennig o gryf yn y casgliad unigryw hwn.”

Yr Athro Martin Kayman
Meddai’r Athro Martin Kayman, Pennaeth yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth:
“Mae’r Llyfrgell wrth graidd y Dyniaethau, ac mae’r Archif wrth graidd y Llyfrgell. Mae gan y casgliad mawr a gwerthfawr hwn sy’n cael ei drosglwyddo i ofal Prifysgol Caerdydd ystod eang o gryfderau, ac mae un ohonyn nhw’n cwmpasu’r union gyfnod lle datblygodd ysgolheictod Dyneiddiol modern ei hun.
“Mae camp y Brifysgol o ran cadw’r casgliad gyda’i gilydd a’i roi ar gael i ymchwilwyr, myfyrwyr a’r cyhoedd yn ffordd hynod o gryf iddi ddangos ei hymrwymiad i draddodiad ysgolheictod y Dyniaethau. At hynny, mae’r buddsoddiad – a’r manteision – yn rhai parhaol.
“Mae’r casgliad mawr o’r Oesoedd Canol a’r Dadeni’n sicr yn cyfateb i faes cryfder traddodiadol mewn Llenyddiaeth Saesneg – mae oddeutu traean o gymuned yr ymchwilwyr ôl-raddedig mewn Llenyddiaeth Saesneg yn ymchwilio i’r cyfnod hwn. Wrth gynllunio i’r dyfodol yn ystod y blynyddoedd diweddar rydym wedi ceisio’n aflwyddiannus i ddenu prif ysgolhaig Shakespeare/yr Adferiad; bydd cael yr archif yn gwneud i’r dasg hon fod yn haws pan fyddwn yn gallu dychwelyd i’r farchnad.
“Mae’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth hefyd wedi buddsoddi’n llwyddiannus mewn datblygu arbenigedd Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru, sy’n integreiddio i rwydwaith o ysgolheigion sy’n gweithio ar berthnasoedd rhyngddiwylliannol rhwng Cymru ac Iwerddon a’r ddwy ‘genedl’ arall ym Mhrydain. Mae hyn wedi denu myfyrwyr ac arian a chynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau o bwys. Rydym yn deall bod y casgliad presennol yn cynnwys swm sylweddol o ddeunydd perthnasol a fyddai’n codi ymhellach ein proffil sy’n datblygu yn y maes cyffrous hwn.”

