Ymateb gwell nag erioed i'r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol
28 Mai 2012
Mae ymdrech lew ar draws y Brifysgol wedi esgor ar ein lefel cyfranogi orau erioed yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol.
Cymerodd tua 79 y cant o fyfyrwyr blwyddyn olaf Caerdydd ran yn yr Arolwg, gan fynd heibio i 71 y cant y llynedd - oedd yn ei hunan yn record i Gaerdydd. Llwyddodd pob Ysgol i gael cyfradd ymateb o dros 70 y cant - sy'n drawiadol iawn o ystyried mai 68 y cant oedd y cyfartaledd cenedlaethol i bob prifysgol.
Mae'r Arolwg yn gofyn i fyfyrwyr roi eu barn ar eu bodlonrwydd mewn chwe maes allweddol - addysgu, asesu ac adborth, trefniadaeth a rheoli, adnoddau dysgu, datblygiad personol a chefnogaeth academaidd. Mae canlyniadau'r arolwg yn hanfodol wrth gynllunio datblygiad addysg y Brifysgol.
Eleni, bu ymdrech fawr o dan arweiniad Is-adran y Gofrestrfa, gan gydweithio'n glòs ag Undeb y Myfyrwyr a'r Ysgolion, yn annog pob un o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd i gymryd rhan. Defnyddiwyd posteri, e-byst, negeseuon testun a hysbysiadau mewn darlithoedd i gyflwyno'r neges. Hefyd roedd raffl i bob myfyriwr oedd yn cymryd rhan. Bu Simone Steadman ac Emily Humphries, y ddwy o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, mor lwcus ag ennill £500 yr un.
Wrth roi eu gwobrau i Simone ac Emily, meddai'r Athro Jonathan Osmond, Dirprwy Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr: "Hoffwn ddiolch i'm cydweithwyr ym mhob rhan o'r Brifysgol am eu help yn y canlyniad gorau erioed eleni. Mae lefel ymateb uchel yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol yn golygu bod gennym hyder wrth ddefnyddio'r canlyniadau i helpu i ddatblygu a gwella ein darpariaeth addysg.
"Rwy'n edrych ymlaen at weld pawb yn chwarae eu rhan mewn canlyniad hyd yn oed yn well y flwyddyn nesaf."
Bydd canlyniadau'r Arolwg ar gael o fis Awst ymlaen.

