Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Ydy Canu’n Iach?

25 Mawrth 2010

Musical notes

Bydd tîm o’r Brifysgol yn gwerthuso’r manteision corfforol ac economaidd sy’n gysylltiedig â chanu drwy astudio aelodau côr sy’n cynnwys rhai sydd wedi goroesi cancr, gofalwyr a chefnogwyr.

Daeth pobl o ardal Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn ne Cymru y mae canser wedi effeithio ar eu bywydau, at ei gilydd i ffurfio côr Sing for Life a fydd yn ymarfer ac yn perfformio dros gyfnod o dri mis.

Nod y prosiect, sydd wedi’i ariannu gan yr elusen ganser Tenovus ac sy’n cael ei redeg ar y cyd â’r cwmni hyfforddi ac ysgogi Sing and Inspire, yw gweld a yw canu’n gallu helpu pobl i wella’n gorfforol o ganser ac i nodi unrhyw newidiadau y mae’n ei wneud i les emosiynol.

Er mwyn gweld beth yw’r manteision iechyd sy’n gysylltiedig â chymryd rhan yn y côr, mae Tenovus wedi comisiynu tîm o Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd y Brifysgol i asesu’r rhai sy’n cymryd rhan ddwywaith yn ystod y prosiect – hanner ffordd drwy’r ymarferion ac ar eu diwedd.

Bydd y tîm yn asesu gallu ysgyfaint y côr sydd â 30 o aelodau, hefyd, bydd holiaduron i’w llenwi am ansawdd eu bywyd, blinder, pryder ac iselder.

Your computer cannot play the video in your browser. To fix this, you need to make sure both Javascript and Adobe Flash are available.

Get the Adobe Flash plug-in by clicking here

To find out how to enable JavaScript, check the Help option for your browser.



Cardiff University campus users

If you are on the Cardiff University campus and have problems with plug-ins or browsers, you can contact the INSRV Helpdesk on extension 74487 or visit the INSRV webpages



Adroddiad diolch i Wales Today, BBC Wales

Mae Nichola Gale o’r Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd yn ymwneud â’r prosiect: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i mi wneud ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sydd wedi cael canser a’r rhai sy’n eu cefnogi,” meddai Nichola. “Mae’r prosiect arloesol hwn yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau ac mae’n cynnwys mesur gallu ysgyfaint corfforol, holiaduron a chyfweliadau i gael barn y rhai sy’n cymryd rhan yn y côr.

“Mae gweld taith y rhai sy’n cymryd rhan yn y côr yn brofiad rhyfeddol ac rwy’n falch o gael ymwneud â’r prosiect arloesol hwn a fydd yn cael ei ymestyn i fannau ledled Cymru. Gobeithio y bydd y prosiect yn arwain at ragor o ymchwil ar y cyd â Tenovus yn y dyfodol.”

Bydd canlyniadau’r prosiect yn cael eu cynnig i’w cyflwyno mewn cynadleddau sy’n berthnasol i ofal canser ac i’w cyhoeddi mewn cyfnodolion sy’n berthnasol i ganser. Hefyd, y bwriad yw rhoi’r canlyniadau ar wefan Tenovus fel bod cleifion, cefnogwyr a gweithwyr proffesiynol yn gallu eu gweld.