Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Lle i feddwl

22 Chwefror 2010

Lle i feddwl

Mae aelodau o staff a myfyrwyr sydd eisiau lle tawel i weddïo neu fyfyrio bellach yn gallu defnyddio un o nifer o ‘ystafelloedd tawel’ sydd wedi’u neilltuo’n benodol at y pwrpas ledled campws y Brifysgol.

Mae’r ystafelloedd, a gafodd eu cyflwyno’n rhan o Bolisïau Cyfleoedd Cyfartal y Brifysgol, wedi’u sefydlu er mwyn helpu i hyrwyddo lleoedd astudio cynhwysol i fyfyriwr a lles yn y gweithle i staff, sy’n gwella ansawdd eu bywyd gwaith.

Bydd gan ddau o adeiladau’r Brifysgol, y Dyniaethau a Trevithick, ystafell dawel a lle tawel wedi’u neilltuo a bydd adeiladau eraill yn amserlennu lle i ystafelloedd tawel yn ystod yr wythnos waith fel y gall staff fynd yno yn ystod adegau penodol o’r dydd.

Meddai’r Athro Terry Threadgold, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Staff ac Amrywiaeth: “Mae’r ystafelloedd tawel yn rhoi cyfle i staff a myfyrwyr fynd i le tawel at eu defnydd personol eu hunain, er mwyn myfyrio crefyddol neu i ymneilltuo am eiliad neu ddwy o’u diwrnod gwaith prysur i ystyried pethau.

“Mae’r ystafelloedd yn gam arall ymlaen i fenter amgylchedd gweithio cadarnhaol y Brifysgol ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gyfleoedd cyfartal.”

Mae gwybodaeth am yr ystafelloedd tawel ar gael i’w lawrlwytho, ac mae’n cynnwys canllawiau manwl am ddefnyddio’r ystafelloedd tawel ac amserlen yn nodi pryd maen nhw ar gael.

Bydd gwybodaeth am pryd a ble bydd yr ystafelloedd tawel ar gael yn cael ei chyhoeddi yn ystod mis Medi bob blwyddyn. Er mwyn cael y wybodaeth hon am sesiwn 2009-10, ewch i www.caerdydd.ac.uk/estat/roombookings/index.html