Rhagori ar y Maes Chwarae
12/05/2010
Ar ôl diwrnod o gystadlu digyfaddawd, mae myfyrwyr Caerdydd wedi cadw Tarian Varsity – gwobr sy’n cynrychioli rhagoriaeth ac ymdrech ym maes chwaraeon ac un y mae’r brifysgol bob amser yn awyddus i’w hennill.
Eleni cynhaliwyd Varsity yn Abertawe ac roedd myfyrwyr Caerdydd yn amddiffyn eu teitl ar ôl ei ennill y llynedd. Bu’r myfyrwyr yn ymgiprys â’i gilydd mewn 17 camp wahanol gan gynnwys pêl-fasged, pêl-droed Americanaidd, lacrós, golff a badminton.
Daeth timau Caerdydd i’r brig mewn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a chanlyniad y darian ar y diwedd oedd Caerdydd 14 - Abertawe 9.
Roedd buddugoliaethau neilltuol Caerdydd yn cynnwys ennill o 57 i 0 mewn pêl-droed Americanaidd, y tîm pêl-droed menywod yn ennill o 5 i 2 a’r tîm lacrós menywod yn ennill o 26 i 0.
Penllanw’r dydd oedd gêm Rygbi Varsity Cymru lle’r aeth timau rygbi Caerdydd ac Abertawe ar y cae yn Stadiwm Liberty i gystadlu am Gwpan Varsity. Er mai Abertawe enillodd gyda sgôr terfynol o 12 i 16, roedd hi’n gystadleuaeth frwd iawn.
Y canlyniadau’n llawn
| CANLYNIADAU VARSITY 2010 | ||
| Tîm | Dyddiad | Canlyniadau Caerdydd |
Pêl-droed Americanaidd | 27/04/2010 | Ennill 57-0 |
Badminton Dynion | 28/04/2010 | Colli 3-5 |
Badminton Menywod | 28/04/2010 | Ennill 7-1 |
Pêl-fasged Dynion | 28/04/2010 | Ennill 72-54 |
Pêl-fasged Menywod | 28/04/2010 | Ennill 96-51 |
Ffensio Dynion | 28/04/2010 | Colli 118-122 |
Ffensio Menywod | 28/04/2010 | Ennill 135-113 |
Pêl-droed Dynion | 28/04/2010 | Colli 1-5 |
Pêl-droed Menywod | 28/04/2010 | Ennill 5-2 |
Rygbi’r Glas | 28/04/2010 | Colli 10-40 |
Golff | 28/04/2010 | Colli 1.5 -4.5 |
Hoci Dynion | 28/04/2010 | Ennill 3-2 |
Hoci Menywod | 28/04/2010 | Colli 0-1 |
Lacrós Dynion | 28/04/2010 | Colli 4-5 |
Lacrós Menywod | 28/04/2010 | Ennill 26-0 |
Pêl-rwyd | 28/04/2010 | Colli 28-39 |
Rhwyfo | 24/04/2010 | Ennill 3-1 |
Rygbi Menywod | 28/04/2010 | Ennill 56-6 |
Hwylio | 28/04/2010 | Colli 3-6 |
Sboncen Dynion | 28/04/2010 | Ennill 5-0 |
Sboncen Menywod | 28/04/2010 | Ennill 3-1 |
Tennis Dynion | 28/04/2010 | Ennill 6-4 |
Tennis Menywod | 28/04/2010 | Ennill 10-0 |
Gêm Rygbi Varsity | 28/04/2010 | Colli 12-16 |
| CANLYNIAD Y DARIAN | ||
| Caerdydd yn ennill 14 i 9 Abertawe | ||
O ran newyddion chwaraeon eraill, aeth Clwb Rygbi’r Undeb Cardiff Medicals ar y cae yn un o feysydd rygbi enwocaf Cymru ar gyfer rownd derfynol cystadleuaeth rygbi genedlaethol.
Ddydd Sadwrn 1 Mai 2010 aeth y tîm yn erbyn Nottingham Medics ym Mharc yr Arfau Caerdydd ym mhenllanw Cwpan Rygbi’r Undeb Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolion Meddygol.
Cardiff Medicals enillodd, gan guro Nottingham o 19 i 13. Hon oedd y ddeuddegfed gêm o’r bron i Cardiff Medicals ei hennill ac aeth yr holl elw o’r rownd derfynol tuag at Ysgoloriaeth Dr Jack Matthews – ymgyrch ar y cyd rhwng Ysgol Feddygol y Brifysgol a Chlwb Rygbi’r Undeb Cardiff Medicals i gynnig cefnogaeth ariannol i feddygon y dyfodol drwy ysgoloriaethau, bwrsarïau a gwobrau.

