Arolwg o Agweddau Staff
15 Ebrill 2011
Ceir adroddiadau manwl sy’n dangos lefelau bodlonrwydd staff mewn Ysgolion a Chyfarwyddiaethau ar-lein nawr.
Casglwyd yr adroddiadau’n rhan o Arolwg o Agweddau Staff y Brifysgol yn 2008, gellir eu cyrchu drwy wefan yr Arolwg o Agweddau Staff ac maen nhw ar gael i bob aelod o staff eu gweld. Rhowch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar adran ‘Canlyniadau Ysgolion a Chyfarwyddiaethau’ y wefan, sef www.cardiff.ac.uk/staffsurvey.
Yn ogystal, mae mwyafrif yr Ysgolion a’r Cyfarwyddiaethau wedi manteisio ar y cyfle i roi gwybodaeth am y camau gweithredu a wnaed er mwyn ymateb i’r canlyniadau am y maes unigol – mae’r wybodaeth hon wedi’i chynnwys yn adran olaf yr adroddiadau data.
Cynhaliwyd yr Arolwg o Agweddau Staff yn rhan o fenter Amgylchedd Gweithio Cadarnhaol. Roedd y cwestiynau’n canolbwyntio ar feysydd gan gynnwys cydraddoldeb ac amrywiaeth, cyfathrebu mewnol a meithrin gallu rheoli. Gwahoddwyd pob aelod o staff i gymryd rhan yn yr arolwg a chafwyd ymateb o 43% ledled y Brifysgol.
Gwnaed prif adroddiad y Brifysgol oedd yn rhoi manylion canlyniadau’r arolwg ar gael i bob aelod o staff ar wefan yr Arolwg o Agweddau Staff ym mis Tachwedd 2008. Mae camau gweithredu sylweddol wedi’u gwneud ledled y Brifysgol i wneud gwelliannau i’r meysydd a nodwyd gan staff. Ceir gwybodaeth am gynllunio gweithredu ac adroddiadau cynnydd ar wefan yr arolwg.
Cynhelir Arolwg o Agweddau Staff nesaf y Brifysgol ym mis Medi 2011. Cyhoeddir manylion pellach maes o law.

