Grŵp Cyfeirio Staff
08/07/2010
Wyddoch chi beth yw’r Grŵp Cyfeirio Staff?
Fforwm yw’r Grŵp Cyfeirio Staff, a sefydlwyd yn 2004, er mwyn hwyluso cyfathrebu dwy ffordd rhwng y staff a’r Brifysgol; er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i staff ac er mwyn annog staff i wneud sylwadau am weithgareddau’r Brifysgol.
Beth yw diben y Grŵp Cyfeirio Staff?
Bu i’r Arolwg o Agweddau Staff, fel un o nifer o ffynonellau adborth, roi cyfathrebu fel y flaenoriaeth bwysicaf i staff. Nododd yr arolwg fod angen “gwella mecanweithiau cyfathrebu mewnol fel bod pob aelod o staff yn cael y wybodaeth bwysig ddiweddaraf am y Brifysgol yn ei chyfanrwydd” (Arolwg o Agweddau Staff, 2008: 9). Mae’r Grŵp Cyfeirio Staff yn un o nifer o fecanweithiau allweddol at y diben hwn.
Pwrpas y grŵp yw rhoi sylwadau am nodau ac amcanion strategol y Brifysgol ac am y tasgau a’r heriau penodol sy’n wynebu’r Brifysgol. Mae’r Grŵp Cyfeirio Staff yn rhoi cyfle i’w holl aelodau gyfrannu i’r Brifysgol yn enwedig y rhai nad ydynt yn ymwneud ag unrhyw agwedd arall ar lywodraethu’r Brifysgol.
Sut mae’r Grŵp Cyfeirio Staff yn gweithio?
Mae’r Grŵp Cyfeirio Staff yn cwrdd o leiaf unwaith bob sesiwn academaidd o dan gadeiryddiaeth yr Athro Terry Threadgold, Dirprwy Is-Ganghellor Staff ac Amrywiaeth. Mae aelodau’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o bob Ysgol a Chyfarwyddiaeth. Rôl aelodau o’r Grŵp Cyfeirio Staff yw: cynrychioli’u Hysgol/Cyfarwyddiaeth mewn cyfarfodydd; cael gwybodaeth am weithgareddau’r Brifysgol; gwneud sylwadau am faterion a drafodir yn y cyfarfod o safbwynt eu Hysgolion/Cyfarwyddiaethau; rhoi adborth am wybodaeth a gafwyd yn y cyfarfod i’w Hysgol/Cyfarwyddiaeth eu hunain.
Pa faterion sy’n cael eu trafod yn y Grŵp Cyfeirio Staff?
Mae rhai o’r materion a drafodwyd mewn cyfarfodydd diweddar yn cynnwys: yr amgylchedd ariannu addysg uwch a ddisgwylir yn y dyfodol; goblygiadau polisïau’r llywodraeth genedlaethol a rhanbarthol; gwaith y cynghorau ariannu a grymoedd allanol eraill; polisïau drafft amrywiol sy’n destun ymgynghori; Wythnos Iechyd ac Amgylchedd Cadarnhaol a’r System Rheoli Amgylcheddol. Ym mhob cyfarfod mae pob cyfarwyddiaeth yn rhoi crynodeb byr o’i chyflawniadau allweddol, ei gweithgareddau a’r materion sy’n ei herio. Yn y cyfarfod diwethaf cynhaliwyd grŵp ffocws i edrych ar sut gellir gwella cyfathrebu mewnol yn rhan o’r fenter gyfathrebu ehangach. Mae’r Grŵp Cyfeirio Staff yn adrodd yn ôl yn bennaf drwy’r Pwyllgor Strategaeth ac Adnoddau ond gall roi mewnbwn i unrhyw un o Bwyllgorau’r Brifysgol drwy’r Cadeirydd os oes angen.
Sut gallaf gyfrannu neu ymwneud â’r Grŵp?
Gall aelodau o staff ofyn i faterion gael eu trafod mewn cyfarfodydd naill ai drwy gysylltu â chynrychiolydd eu Hysgol/ Cyfarwyddiaeth neu drwy gysylltu â Chris Carey, Adnoddau Dynol (79096, CareyCM1@cardiff.ac.uk). Mae’r agenda a’r papurau sy’n cyd-fynd â chyfarfodydd y gorffennol a’r dyfodol hefyd yn cael eu cyhoeddi ar-lein ac felly os oes gennych unrhyw sylwadau yr hoffech iddynt gael eu trafod yn y cyfarfodydd cysylltwch â chynrychiolydd eich Ysgol/ Cyfarwyddiaeth. Mae pob Pennaeth Ysgol/ Cyfarwyddiaeth yn adolygu aelodaeth y Grŵp Cyfeirio Staff yn flynyddol, neu bob hyn a hyn os cyfyd lle gwag yn ystod y flwyddyn. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r grŵp anfonwch neges yn mynegi hynny at eich Pennaeth Ysgol/ Cyfarwyddiaeth.
Rhagor o Wybodaeth
Ceir rhagor o wybodaeth am y Grŵp Cyfeirio Staff gan gynnwys cylch gorchwyl, disgrifiad o rôl aelodau, manylion eich cynrychiolwyr lleol ac archif o bapurau’r gorffennol ar-lein ar:
www.caerdydd.ac.uk/for/staff/networks/staffreferencegroup/index.html
Er mwyn trafod gwaith y grŵp yn fanylach cysylltwch naill ai â’ch cynrychiolwyr lleol neu Karen Cooke, Adnoddau Dynol (70063, CookeK1@cf.ac.uk).

