Arolwg staff
07 Mawrth 2012
Mae 83% o'r staff yn credu eu bod yn cael eu trin gyda pharch gan eu cydweithwyr ond dim ond 23% o'r staff sy'n teimlo bod y Brifysgol yn rheoli newid mawr yn effeithlon, yn ôl canlyniadau'r arolwg staff diweddaraf.
Cynhaliwyd yr ail arolwg staff ym misoedd Hydref a Thachwedd 2011, a rhoddodd 57% o'r staff amser i rannu eu barn â Thîm Uwch Reoli'r Brifysgol – cynnydd o arolwg 2008 lle ymatebodd 43% o'r staff.
Gwnaed yr arolwg drwy ORC International, un o brif ddarparwyr annibynnol arolygon staff ac ymchwil ymgysylltu â gweithwyr.
Ymysg y canfyddiadau mae: byddai 76% o'r staff a lenwodd yr holiadur yn argymell y Brifysgol fel lle da i weithio, mae 86% yn gwybod yn iawn beth sy'n ddisgwyliedig ganddyn nhw yn y gwaith ac mae 82% yn teimlo balchder am eu bod yn gweithio i'r Brifysgol. Ond 24% yn unig o'r staff sy'n teimlo bod eu Hysgol/Cyfarwyddiaeth yn ymdrin â pherfformiad gwael yn briodol a 36% yn unig o'r staff sy'n teimlo bod y Brifysgol yn eu gwerthfawrogi.
Mae'r wybodaeth y mae'r ymatebion yn ei rhoi'n helpu'r Brifysgol i ddeall:
- yr hyn y mae'n ei wneud yn dda,
- sut mae barn a materion staff wedi newid ers arolwg 2008,
- yr hyn nad yw'n gweithio cystal.
Bydd y canlyniadau'n galluogi'r Brifysgol, yr Ysgolion neu'r Cyfarwyddiaethau i gytuno ar yr hyn y gallan nhw ei wneud i newid neu i ddatblygu dulliau newydd.
Meddai Dr David Grant, yr Is-ganghellor: "Hoffwn ddiolch i'n staff am roi o'u hamser i gyfrannu eu barn. Mae canlyniadau'r arolwg yn eithriadol werthfawr ac yn rhoi sylfaen tystiolaeth dda i benderfyniadau'r dyfodol wrth i'r brifysgol symud ymlaen.'
Mae canlyniadau llawn y Brifysgol a rhagor o wybodaeth am yr arolwg ar gael yn http://www.cf.ac.uk/humrs/pwe/survey/index.html Caiff canlyniadau Ysgolion/Cyfarwyddiaethau eu rhyddhau yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.
Pe hoffech gael gwybodaeth bellach neu os oes gennych gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â:
Helen Harries ar est 79230, HarriesH@cardiff.ac.uk
neu
Karen Cooke ar est 70063, CookeK1@cardiff.ac.uk

