Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd
22 Chwefror 2010
“Roedd y prosiect yn her ac yn anodd ar brydiau, ond drwy wirfoddoli, cefais wneud gwahaniaeth bach i berson bregus ac unig, drwy wneud dim ond rhoi ychydig oriau o’m hamser.” Gwirfoddolwr gyda Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd
Mae cymryd rhan mewn prosiectau gwirfoddoli gyda Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd (SVC) yn rhoi boddhad ac yn werth chweil. Mae pob un o’r prosiectau’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, ac nid myfyrwyr yn unig sy’n cael cyfle i wirfoddoli – caiff aelodau o staff eu hannog hefyd i roi o’u hamser a’u doniau i amrywiaeth eang o brosiectau.

Mae staff a myfyrwyr yn cymryd rhan yn ras hwyl flynyddol SVC – mae’r arian a godir yn helpu i redeg prosiectau gwirfoddoli.
Mae Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr yn rhedeg o 22-26 Chwefror, felly mae Blas yn rhoi cipolwg ar y mathau o brosiectau gwirfoddoli y gallwch chi ymwneud â nhw:
Bullies-Out – elusen gwrth-fwlio sy’n rhoi help, cefnogaeth a gwybodaeth i unigolion, ysgolion, lleoliadau ieuenctid a chymunedol sy’n cael eu heffeithio gan fwlio.
Mae Cadwraeth Caerdydd (Cardiff Conservation) yn rhedeg amrywiaeth o weithgareddau wedi’u seilio ar gadwraeth gydol y flwyddyn, gan amrywio o osod cloddiau a gwaith ar lwybrau troed, i godi waliau cerrig sych a phrosiectau garddio. Mae’r rhan fwyaf o’r prosiectau’n digwydd ar ddydd Sul, felly mae’n haws eu gwneud nhw ar y cyd â gweithio ac astudio.
Mae Hosbis George Thomas yn cynnig gofal lliniarol arbenigol yn y cartref yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Maen nhw’n helpu’r rhai sy’n dioddef o ganser a salwch arall sy’n bygwth bywyd, eu teuluoedd a’u gofalwyr ar adeg anodd a llawn straen yn eu bywydau. Mae’r hosbis yn cynnal digwyddiadau y gallwch chi helpu gyda nhw, o Sioe Ffasiynau i gasglu arian mewn gemau yn Stadiwm y Mileniwm.

Gwirfoddolwyr SVC yn helpu mewn clwb wythnosol i blant 7 – 11 oed.
Ewch i www.svcardiff.org/staff i gael rhagor o wybodaeth am bob un o’r prosiectau hyn ac i weld pa gyfleoedd gwirfoddoli eraill sydd ar gael.
Ar y wefan gwirfoddoli staff mae man lle gallwch gofrestru ar restr e-bost gwirfoddoli SVC i gael gwybodaeth am gyfleoedd unwaith yn unig i helpu elusennau a chyrff lleol. Pe hoffech rannu eich profiad cysylltwch â blas@caerdydd.ac.uk
Wyddech chi:
- Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd yw un o gyrff gwirfoddoli myfyrwyr mwyaf y DU.
- Mae myfyrwyr yn treulio 80,960 awr y flwyddyn yn gwirfoddoli.
- Caiff 837 o bobl eu helpu bob wythnos gan fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli.
- Amcangyfrifir bod yr elusen yn cyfrannu £990,000 i’r economi lleol.

