Cefnogwch Dîm Caerdydd
30 Ebr 2012
Bydd dros 200 myfyriwr o brifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn cystadlu yng Nghystadlaethau Prifysgolion Cymru mewn campau sy'n cynnwys golff, hoci a rhwyfo.
Bydd cystadlaethau'n digwydd dros y ddinas i gyd gyda'r Darian yn cael ei rhoi i'r Brifysgol sy'n ennill mwyafrif y pwyntiau dros yr holl gampau.
Digwyddiad olaf y diwrnod bydd y frwydr dros Gwpan Rygbi'r Prifysgolion. Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar faes 'niwtral' sef Stadiwm y Mileniwm, ac mae hi'n dechrau am 7.30.
Meddai Martyn Fowler, Pennaeth Rygbi yng Nghaerdydd: "Mae gêm Prifysgolion Cymru bellach wedi cael ei sefydlu fel y gêm amatur fwyaf ar restr flynyddol gêmau Undeb Rygbi Cymru. Mae'n benllanw wyth mis o waith caled i'r myfyrwyr sy'n cynrychioli Clwb Rygbi Prifysgol Caerdydd ac yn ffenest siop ddelfrydol i'n myfyrwyr gael dangos eu doniau i hyfforddwyr y Rhanbarthau a'r Uwch Gynghrair a fydd yn gwylio."
Mae'r tocynnau i gefnogi Caerdydd ac Abertawe yn gêm 2012 yn Stadiwm y Mileniwm yn costio £10 ac maen nhw ar gael o www.welshvarsity.com. Hefyd, bydd y gêm yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C o 7.00pm.

