Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Cyfres Caerdydd

28 Mai 2012

 

Bydd cynulleidfaoedd yn un o wyliau llenyddol enwocaf y byd yn gallu cael gwybod yn uniongyrchol am beth o ymchwil blaengar y Brifysgol.

Bydd chwech o academyddion Caerdydd - sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu gwaith - yn siarad yng Ngŵyl y Gelli 2012 yn rhan o Gyfres Caerdydd.

Mae'r ŵyl, sy'n rhedeg o 31 Mai - 10 Mehefin, yn denu'r awduron, y gwneuthurwyr ffilmiau,  y comedïwyr, y gwleidyddion a'r cerddorion mwyaf cyffrous, ymysg eraill, i ysbrydoli, adlonni a diddanu.
Eleni, bydd yr Athro Julie Williams a Dr Ian Jones o'r Ysgol Feddygaeth a Sefydliad Niwrowyddoniaeth ac Ymchwil Iechyd Meddwl y Brifysgol; Dr Andrew Edgar, Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth; Dr Adam Corner, Ysgol Seicoleg; Dr Isabelle Durance, Ysgol y Biowyddorau a Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy'r Brifysgol; a Steven Vaughan, Ysgol y Gyfraith Caerdydd yn trafod eu maes gwaith â chynulleidfaoedd.

Bydd yr Athro Williams yn siarad am ei hymchwil blaengar i glefyd Alzheimer a bydd Dr Ian Jones yn siarad am y cysylltiad rhwng esgor ar blentyn a gwallgofrwydd. Pwnc sgwrs Dr Corner yw geobeirianneg, a bydd Dr Durance yn esbonio pam mae angen inni ddiogelu tirweddau afonydd. Bydd Steven Vaughan yn trafod arloesedd cyfrifol a thechnoleg newydd yn ei sgwrs yntau.

Mae Cyfres Caerdydd wedi cael ei threfnu gan Dîm Ymgysylltu Cymunedol y Brifysgol ac wrth sôn am y digwyddiad, meddai James Vilares, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol: "Mae Gŵyl y Gelli'n fforwm gwych i rannu syniadau, ac mae'r ffaith fod Cyfres Caerdydd wedi cynyddu i chwe darlith ar gyfer pen-blwydd yr ŵyl yn 25 oed yn dyst i ansawdd yr ymchwil sy'n arwain y byd y mae ein hacademyddion yn ei wneud ym Mhrifysgol Caerdydd."

I gadw tocynnau ar gyfer Cyfres Caerdydd neu i gael gwybod rhagor am Ŵyl y Gelli ewch i www.hayfestival.com