Gweddnewid ein campws
22/03/2011

Parc Maendy
Mae prosiectau adeiladu cyffrous ar y gweill ledled ystâd y Brifysgol. Byddan nhw’n gwella ein hymchwil, ein haddysgu, yr amgylchedd i’r myfyrwyr a’r staff, a’r ffordd y byddwn ni’n ymwneud â’r cyhoedd.
Parc Maendy
Dros y ddau ddegawd newydd, bydd campws ymchwil newydd yn ymffurfio ar safle 8.9 erw Parc Maendy. Bydd cyfres o adeiladau newydd yn rhoi 60,000 metr sgwâr o le i dimau ymchwil rhyngddisgyblaethol mewn amgylchedd a fydd wedi’i dirlunio’n ddymunol.
Mae’r Brifysgol newydd gael caniatâd cynllunio i’r adeilad newydd ar y campws, wrth ymyl yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg. Bydd dyluniad yr adeilad newydd, gan Nightingale Associates, yn cyd-fynd â’r Ysgol bresennol o ran maint a bydd y dylunio’n fodern ac unigryw. Bydd llawer o’r ynni’n dod o gelloedd ffotofoltäig ar y to, gyda wal parapet yn eu cadw o’r golwg. Bydd y ffynhonnell ynni hon yn fodd i’r adeilad ddefnyddio ynni’n hynod effeithlon a bydd yn helpu’r Brifysgol i gyrraedd y safonau cynaliadwyedd uchaf i’r datblygiad. Bydd dau o sefydliadau ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd y Brifysgol – Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl a Sefydliad Ymchwil Celloedd Bonyn Canser – ymysg y rhai fydd yn yr adeilad newydd. Bydd lle arddangos ar y llawr gwaelod hefyd yn galluogi’r cyhoedd i ddysgu rhagor am ein gwaith.
Mae’r Brifysgol yn gobeithio penodi contractwyr cyn hir a bydd gwaith yn dechrau ar y safle yn y gwanwyn. Bydd yr adeilad, a fydd yn costio tua £30M, yn cael ei ariannu gan arian cyfalaf a glustnodwyd ar gyfer y prosiect arbennig hwn.
Meddai’r Athro Tim Wess, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ystadau: “Bydd yr adeilad newydd hwn yn helpu i adfywio rhan bwysig o ganol ein dinas, gan sefydlu timau ymchwil o safon byd i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio arnom i gyd. Yn ogystal, rydym yn ei weld fel cyfleuster cymunedol, fel bod y cyhoedd yn gallu cael rhagor o fynediad eto i’n gwaith.”

Adeilad Cochrane
Cartref newydd gofal iechyd
Mae Adeilad Cochrane, adeilad newydd blaenllaw’r Brifysgol yn datblygu’n nodwedd newydd drawiadol ar gampws Parc y Waun. Bydd yn cyd-fynd â’r ddarlithfa a Lolfa IV gerllaw fel cyfres o gyfleusterau i bob myfyriwr gofal iechyd ar y campws.
Bydd Adeilad Cochrane, a ddyluniwyd gan Powell Dobson, y cwmni lleol, yn cynnig cyfleusterau neilltuedig newydd gan gynnwys llyfrgell ryngbroffesiynol newydd dros dri llawr. Bydd sgiliau clinigol newydd a chanolfannau efelychu uwch-dechnoleg hefyd ar gael ar y lloriau uchaf. Bydd ardaloedd addysgu ôl-raddedig newydd hefyd yn yr adeilad newydd, gyda lle i gynnal seminarau, mynediad diwifr i wasanaethau ar-lein a gwasanaethau cefnogi myfyrwyr.
Bydd yr adeilad newydd, yn benodol, yn cynnig ‘drws ffrynt’ i’r Ysgol Feddygaeth ac yn ateb y rhan fwyaf o anghenion beunyddiol ei myfyrwyr. Bydd hefyd yn creu canolbwynt i’r holl addysgu sy’n gysylltiedig ag iechyd ar y campws. Bydd lleoliad agos y cyfleusterau addysgu a llyfrgell yn hybu cysylltiad rhwng y disgyblaethau gofal iechyd gwahanol ac yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu rhyngbroffesiynol a chydweithio proffesiynol yn y dyfodol.
Mae’r adeilad newydd, a enwyd ar ôl Archie Cochrane, arloeswr meddygol yng Nghaerdydd, yn dilyn amserlen i gael ei agor yn sesiwn academaidd 2011/12. Mae delweddau o holl gamau’r gwaith adeiladu, a wneir gan Vinci Construction, ar gael yn: www.flickr.com/photos/47798574@N05/.
Estyniad newydd trawiadol adeilad y Biowyddorau
Bydd ymwelwyr ag Ysgol y Biowyddorau wedi sylwi ar yr estyniad lliwgar sydd ar fin cael ei orffen ar y podiwm deheuol.
Nodweddir y datblygiad £4m gan ei ffasâd hecsagonol amryliw, sy’n adlewyrchu gwaith yr Ysgol yn deall strwythurau molecwlar byd natur. Bydd gan yr Ysgol fynedfa newydd y bydd modd ei hadnabod yn syth, gyda chyntedd mawr eang, ffreutur, ystafelloedd seminar a chanolfan weinyddol.
Bydd yr adeilad, a ddyluniwyd gan Rio Architects, yn canolbwyntio ar fyfyrwyr, gan gynnig mynediad rhwydd i bob cyfleuster. Yn ogystal, bydd yr estyniad yn rhyddhau lle yn yr adeilad i ddatblygiadau ymchwil ac addysgu pellach.
Meddai’r Athro John Harwood, Dirprwy Gyfarwyddwr yn Ysgol y Biowyddorau: “Bydd hwn yn ddatblygiad pwysig iawn i’r Ysgol a fydd yn cyfoethogi’r profiad dysgu i bob un o’n myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn sylweddol. Hefyd bydd yn rhoi mynedfa drawiadol i un o ysgolion mwyaf y Brifysgol.”
Mae’r estyniad deulawr wedi’i ddylunio i ychwanegu at y bensaernïaeth gyfagos y Brifysgol a chanolfan ddinesig Caerdydd. Mae’r Ysgol yn gobeithio cynnal seremoni agor swyddogol yn yr hydref.

Canolfan Ôl-raddedig Ysgol Fusnes Caerdydd
Canolfan Ôl-raddedig Ysgol Fusnes Caerdydd
Mae Ysgol Fusnes Caerdydd yn ganolfan flaenllaw ar gyfer astudiaethau busnes a rheoli ôl-raddedig, ac mae’n denu myfyrwyr o ansawdd uchel o bedwar ban y byd.
Mae’r Brifysgol yn creu Canolfan Ôl-raddedigion £10.6M newydd, gan gynnig adnoddau a phrofiad myfyrwyr a fydd yn adlewyrchu statws yr Ysgol yn arwain y byd.
Bydd yr adeilad nesaf at Ddarlithfa Julian Hodge a bydd yn darparu dwy ddarlithfa newydd yn null Havard. Bydd dau le i gynnal seminarau yno, a bydd gan un le i 320 myfyriwr eistedd. Bydd myfyrwyr hefyd yn elwa ar ardaloedd adnoddau cyfrifiadurol, gyda’r cyfleusterau astudio TG diweddaraf, Ystafell Fasnachu newydd a mwy, a mannau gweithio ac ystafelloedd cyffredin i fyfyrwyr.
Bydd Adeilad Guest y tu ôl i Adeilad Aberconwy yn cael ei ddymchwel i roi maes parcio newydd, i adfer y lleoedd parcio a gollir lle bydd y Ganolfan Ôl-raddedig newydd yn cael ei chodi. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud cyn dechrau codi’r Ganolfan.
Meddai’r Athro George Boyne, Deon yr Ysgol: “Mae’r datblygiad newydd hwn yn dynodi oes newydd i’r Ysgol, gan greu lle i ni gyfoethogi a gwella ansawdd profiad y myfyrwyr. Rydyn ni’n teimlo’n llawn cyffro am y cyfle y bydd hyn yn ei roi i ni ddatblygu yn y dyfodol, gan adeiladu ar sail ein rhagoriaeth ymchwil bresennol.”
Ar hyn o bryd mae’r Adran Ystadau yn gwahodd tendrau ar gyfer penodi’r tîm dylunio. Maen nhw’n gobeithio cael caniatâd cynllunio a rhoi’r prosiect allan i dendr adeiladu’n ddiweddarach eleni, fel bod y gwaith yn gallu dechrau ar y safle ddechrau 2012.
Safle iard frics – llety newydd posibl i fyfyrwyr
Mae’r Brifysgol yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gael adeilad preswyl newydd i fyfyrwyr ar hen safle’r iard frics, ger Gogledd Tal-y-Bont.
Bydda’r bloc pum llawr, a fyddai’n costio tua £6.5M, yn cynnig llety i 173 arall o fyfyrwyr y Brifysgol.
Ar ôl cwblhau’r astudiaeth ddichonolrwydd gychwynnol, mae’r Adran Ystadau yn comisiynu tîm dylunio fel bod y Brifysgol yn gallu rhoi’r prosiect allan i dendr ym mis Medi. Fel sy’n wir am bob prosiect adeiladu arall gan Brifysgol Caerdydd, caiff ei godi i safon ‘ardderchog’ BREEAM ar gyfer cynaliadwyedd.
Gwella ein hystâd bresennol
Wrth i’r gwaith ar yr holl ddatblygiadau newydd fynd yn ei flaen, mae’r Adran Ystadau wrthi o hyd yn cynnal a chadw ac yn adnewyddu adeiladau presennol y Brifysgol.
Mae hyn yn dipyn o gamp. Ar hyn o bryd mae ystâd y Brifysgol yn rhyw 420,000 metr sgwâr, gyda 297 adeilad gwahanol. Mae pump o’r rhain - y Prif Adeilad, Adeiladau Bute a Morgannwg, Neuadd Aberdâr a rhannau o Adeilad y Frenhines wedi’u rhestru, felly maen nhw o ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol neilltuol.
Ar hyn o bryd mae gan adran Prosiectau’r Ystadau bum prosiect cyfalaf a 19 gwaith llai ar y gweill, sy’n werth cyfanswm o £70M. Ar ben hynny, mae’r Tîm Cynnal a Chadw yn gwneud gwaith sydd wedi’i gynllunio a gwaith ymateb o gwmpas yr ystâd i gyd, sy’n werth tua £10M yn flynyddol. Yn ystod blwyddyn, bydd y Tîm yn deilio â thua 15,000 darn o waith a 22,000 gwaith ymateb. O’r rhain, mae dros 2,000 yn ymwneud â chyfnewid bylbiau golau a thiwbiau goleuo.
Mae’r amrywiaeth o waith yn gofyn am ystod eang o ddoniau. Mae’r tîm Ystadau’n cynnwys penseiri, peirianwyr, syrfewyr, adeiladwyr, trydanwyr, plymwyr, ffitwyr mecanyddol, staff gweinyddol a staff sydd ag arbenigedd mewn TG, Diogelwch a chynaliadwyedd.

