Teyrnged i rôl arloesol Truda
05/09/2011

Ymddeoliad Truda Bell. Mae hi yng nghanol y rhes gefn gyda Dr John Gallacher i'w chwith a Syr Rory Collins i'w dde.
Roedd Syr Rory Collins, Prif Swyddog Gweithredol Biobank y DU, ymhlith y gwesteion a fu'n canmol Truda Bell yn ystod ei hymddeoliad diweddar o'r Ysgol Feddygaeth.
Mae Truda wedi cyd-drefnu Canolfan Adnoddau Cyfranogwyr Biobank y DU ers iddi agor yng Nghaerdydd yn 2006. Y Ganolfan yw'r ganolfan gyswllt ar gyfer pawb sy'n cymryd rhan yn Biobank, sy'n astudio effaith y genynnau a ffordd o fyw ar glefydau cyffredin mewn pobl ledled y DU. Sefydlodd Truda a'i thîm rheoli, Ana Koleva-Thompson a Maggie Gregory, y Ganolfan, sy'n cynnwys 25 aelod o staff ac sydd wedi'i chynllunio i ddarparu ar gyfer y 500,000 o bobl sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth.
Mae Truda wedi bod yn aelod gwerthfawr o staff yn Adran Gofal Sylfaenol ac Iechyd y Cyhoedd yr Ysgol ers 11 mlynedd. Ymunodd â'r Adran yn 2000, i weithio gyda'r Athro Ian Matthews i ddechrau cyn ymuno â thîm Dr John Gallacher i reoli Astudiaeth Rhagolygon Caerffili. Roedd ei llwyddiant yn y ddwy astudiaeth hon yn golygu mai hi oedd y dewis naturiol fel cyd-drefnydd pan enillodd yr Adran y cais ar gyfer Canolfan Adnoddau Cyfranogwyr.

Truda Bell gyda'i blodau ar achlysur ei hymddeoliad.
Ymunodd cydweithwyr o bob cwr o'r DU â Truda i ddathlu achlysur ei hymddeoliad. Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol roedd Syr Rory Collins, Prif Weithredwr Biobank y DU, a roddodd deyrnged i ymrwymiad Truda a'i harweinyddiaeth ysbrydoledig. Dywedodd fod ei thîm wedi chwarae rôl ganolog o ran sefydlu Astudiaeth Biobank y DU fel yr astudiaeth epidemiolegol fwyaf ym Mhrydain. Cymynrodd Truda yw'r Canolfan Adnoddau Cyfranogwyr Biobank y DU sydd bellach yn nwylo'i thîm rheoli dibynadwy, sy'n parhau i weithio mewn partneriaeth â Biobank y DU, yn ogystal â chydag astudiaethau epidemioleg eraill.
Gan siarad am ymddeoliad Truda, meddai Dr John Gallacher: "Roedd Truda Bell un o'r bobl fwyaf ymroddedig a dibynadwy rydw i wedi gweithio gyda nhw. Roedd ei chymysgedd o synnwyr digrifwch, ei natur hunanfeirniadol, a'i diddordebau amrywiol, yn golygu ei bod yn gwmni rhagorol. Mae bywyd yn rhy dawel nawr ei bod wedi ymddeol!"

