Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Ffïoedd dysgu: Y sefyllfa bresennol

08/03/2011

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae Leighton Andrews, Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi cyhoeddi nifer o ddatganiadau am ddyfodol ffioedd dysgu i israddedigion Cymru a’r goblygiadau i brifysgolion Cymru.

Nod y Cwestiynau a’r Atebion hyn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r staff am y sefyllfa bresennol ac egluro’r amrywiol gamau y mae angen i’r polisi cenedlaethol fynd drwyddynt cyn y bydd y Brifysgol yn medru cyhoeddi ei lefelau ffioedd dysgu ei hun.

Pam mae prifysgolion Cymru wedi gorfod adolygu eu trefniadau ffioedd?
Mae pwysau cyllideb y sector cyhoeddus a chanlyniad effeithiau system ffioedd newydd a gyhoeddwyd ar gyfer Lloegr wedi golygu bod angen chwilio am ymateb yng Nghymru a fyddai’n sicrhau bod gan brifysgolion adnoddau digonol i gyflwyno dysgu ac addysgu ar y safonau uchel y mae gan fyfyrwyr hawl i’w mynnu.

Beth yw’r trefniadau ffioedd arfaethedig ar gyfer Cymru?
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynnig y bydd lefel y ffioedd dysgu sylfaenol yng Nghymru’n codi i £4,000 y flwyddyn mewn termau real i israddedigion y DU/UE o Hydref 2012. Mewn rhai achosion bydd sefydliadau’n gallu codi hyd at £9,000 am eu cyrsiau ond iddynt allu dangos, drwy gynllun ffioedd, ymrwymiad i ehangu mynediad ac amcanion strategol eraill.

Ydy’r cynigion trefniadau ffioedd yn safonol ledled y DU?
Nac ydynt. Nid yw’r cynigion ffioedd yn safonol ledled y DU.

Mae gan Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon drefniadau ffioedd ar wahân. Yn Lloegr, bydd gan brifysgolion lefel ffioedd dysgu safonol o £6,000 ac mewn rhai achosion byddant yn gallu codi hyd at £9,000. Fel yng Nghymru, bydd prifysgolion yn Lloegr sy’n dymuno codi mwy na’r lefel sylfaenol yn gorfod cynhyrchu cynlluniau  a fydd yn bodloni gofynion penodol o ran ehangu mynediad a chynhwysiant. Y Swyddfa dros Fynediad Teg (OFFA) fydd yn gosod y gofynion a’r prosesau cymeradwyo ar gyfer prifysgolion Lloegr ac ni fyddant o angenrheidrwydd yr un fath a’r gofynion a’r prosesau cymeradwyo a osodir yng Nghymru gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). 

Mae’r gwaith o adolygu’r systemau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ar y gweill.

Pryd bydd y trefniadau ffioedd newydd yn cael eu rhoi yn eu lle yng Nghymru?
Os caiff y ddeddfwriaeth angenrheidiol ei phasio erbyn diwedd mis Mawrth 2011, bydd y trefniadau diwygiedig ar gyfer cyllido addysg uwch a chefnogaeth myfyrwyr statudol yng Nghymru’n cael eu rhoi yn eu lle i fyfyrwyr sy’n dechrau cyrsiau astudio newydd ar 1 Medi 2012 neu ar ôl hynny.

I fyfyrwyr newydd yn unig y bydd y system newydd yn berthnasol. Bydd israddedigion sydd eisoes wedi dechrau eu hastudiaethau cyn 1 Medi 2012 yn parhau ac yn cwblhau eu cyrsiau o dan eu system ffioedd presennol.

Felly, sut bydd hyn yn effeithio ar fyfyrwyr o Gymru?
Bydd y ffioedd ar gyfer myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru’n cael eu talu o ddwy ffynhonnell.

Fel sy’n wir nawr, bydd myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru’n atebol am £3,290 cyntaf  eu ffioedd – bydd y gost hon yn cael ei thalu drwy gyfrwng benthyciad o’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Pan fyddant yn ennill dros £21,000 yn unig y bydd myfyrwyr yn dechrau ad-dalu’r benthyciad hwn. Bydd gweddill y ffioedd sy’n uwch na’r £3,290 yn cael eu talu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy gyfrwng grant ffioedd dysgu.

Bydd y grant ffioedd dysgu’n cael ei dalu i bob myfyriwr sy’n byw yng Nghymru. Mae’n berthnasol nid yn unig i’r myfyrwyr hynny sy’n astudio yng Nghymru ond i bob myfyriwr sy’n byw yng Nghymru ble bynnag y mae’r myfyrwyr hyn yn astudio yn y DU. Ni fydd angen ad-dalu’r grant ffioedd dysgu ac ni fydd moddion prawf er mwyn ei gael.

DS: £3,290 yw’r ffi dysgu israddedig cyfredol (2010-11) – disgwylir i’r ffigwr hwn gael ei newid yn unol â chwyddiant.

Beth am fyfyrwyr o rannau eraill y DU?
Bydd myfyrwyr o rannau eraill y DU yn cael eu rheoli gan y trefniadau ffioedd a benderfynir gan eu llywodraethau eu hunain.

Ni fydd myfyrwyr o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon sy’n astudio ym mhrifysgolion Cymru’n derbyn grant ffioedd dysgu Llywodraeth Cynulliad Cymru a rhagwelir y bydd rhaid i’r myfyrwyr hyn dalu cost eu ffioedd dysgu’n llawn drwy gael benthyciad o’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

A fydd yn rhaid i fyfyrwyr sy’n astudio’n rhan amser dalu ffioedd ymlaen llaw fel sy’n wir o dan y system bresennol?
O 2012, disgwylir y bydd myfyrwyr rhan amser yn gallu cael mynediad i fenthyciad ffioedd dysgu, yn dibynnu ar ba mor ddwys yw eu cwrs. Rydym yn dal i ddisgwyl am fanylion pellach am y pwnc hwn.

Pa gefnogaeth fydd ar gael i fyfyrwyr?
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i helpu’r myfyrwyr mwyaf galluog a’r gorau i wireddu eu huchelgais academaidd beth bynnag yw eu sefyllfa ariannol, ac mae o hyd wedi ceisio darparu ysgoloriaethau a bwrsarïau lle bo hynny’n bosib. Nid ydym eto mewn sefyllfa i wybod pa ffurf ar gymorth ariannol fydd yn ei lle i ddenu a chefnogi’r rhai mwyaf galluog, ond bydd yn rhan o’n cynllun ffioedd ni. Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth hon cyn gynted ag sy’n bosibl.

A fydd terfyn o hyd i nifer y myfyrwyr rydym yn gallu eu recriwtio?
Bydd, gallwn ni ddysgu’r cyfyngiadau presennol ar israddedigion llawn amser newydd o’r DU a’r UE i barhau. Os byddwn ni’n derbyn mwy na’r nifer a bennwyd, cawn ein cosbi’n ariannol i dalu am gostau gor-recriwtio. Mae lefelau derbyn myfyrwyr israddedig eisoes yn ystyried y cap hwn.

Pryd byddwn ni’n gwybod am lefelau ffioedd Prifysgol Caerdydd ei hun?
Rydym wrthi’n trafod goblygiadau’r trefniadau ffioedd newydd a byddwn yn dod i benderfyniad ar y lefel ffioedd briodol i’w chodi ar ôl i oblygiadau llawn y system ariannu newydd ddod yn fwy eglur dros yr ychydig wythnosau nesaf. Ar ôl hyn, byddwn yn medru ystyried yn well pa lefel o ran ffioedd dysgu israddedigion y DU/UE y mae angen i ni ei chodi ar y myfyrwyr sy’n dod i mewn yn 2012. Yn ogystal, bydd arnom angen datblygu cynllun ffioedd a chael Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i gymeradwyo’r cynllun hwnnw cyn y gallwn ddatgan beth yw ein ffi. Byddwn yn cyhoeddi ein gwybodaeth ffioedd cyn gynted ag y gallwn.

Fydd lefelau’r ffioedd yn wahanol i gyrsiau gwahanol?
Ni allwn ddweud eto faint byddwn ni’n ei godi am gyrsiau penodol. Fodd bynnag, bydd penderfyniad y Brifysgol wedi’i seilio ar sicrhau ei bod yn medru cynnal a datblygu addysgu a dysgu sy’n arwain y byd ac sy’n cael eu harwain gan ymchwil, a phrofiad ardderchog i fyfyrwyr – bydd y ddau beth yma’n rhoi manteision tymor hir i bob myfyriwr sy’n dewis dod i Gaerdydd i astudio; bydd hefyd yn adlewyrchu’r ymrwymiad parhaus sydd i sicrhau bod croeso yng Nghaerdydd i bob myfyriwr sydd â’r gallu i lwyddo.

Beth yw’r camau nesaf?
Bydd pleidlais ar y rheoliadau cynllunio ffioedd yn y Senedd ar 15 Mawrth 2011 a bydd CCAUC yn cyhoeddi arweiniad ar y cynllun cynllunio ffioedd ar ôl i’r Senedd ei gymeradwyo. Y bwriad yw i’r holl ddeddfwriaeth angenrheidiol gael ei gwneud cyn Etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai 2011. Bydd hyn yn caniatáu digon o amser i addasu’r systemau benthyciadau a thaliadau amrywiol a fydd yn cefnogi’r gweithredu llawn ym mlwyddyn academaidd 2012/13.

Mae’r arweiniad diweddaraf yn awgrymu y bydd angen i brifysgolion gyflwyno eu cynlluniau ffioedd i CCAUC, gan nodi eu lefelau ffioedd arfaethedig, erbyn canol mis Mai. Bydd angen i unrhyw drafodaethau sy’n dilyn rhwng y prifysgolion a CCAUC fod wedi dod i ben yn derfynol erbyn diwedd mis Mehefin neu ddechrau Gorffennaf.

Beth yw ystyr lefel ffioedd dysgu sylfaenol?
Mae’r ffioedd dysgu sylfaenol yn diffinio’r lefel ffioedd y mae’n rhaid i sefydliad ddarparu cynllun ffioedd ar ei chyfer os ydynt yn codi ffioedd uwch na hynny. Er enghraifft, os yw sefydliad yn dymuno codi ffioedd uwch hyd at £9,000 y flwyddyn o 2012/13, mae’n rhaid iddo gyflwyno cynllun ffioedd i CCAUC ei gymeradwyo. Drwy’r cynllun ffioedd bydd angen i’r sefydliad ddangos ymrwymiad i ehangu mynediad ac amcanion strategol eraill sy’n berthnasol i hyrwyddo addysg uwch.

Beth yw cynllun ffioedd?
Bydd y cynllun ffioedd yn nodi amcanion y sefydliad o ran hyrwyddo cydraddoldeb cyfle a hyrwyddo addysg uwch. Rydym yn disgwyl am ragor o wybodaeth am fanylion y cynllun ffioedd.

Beth yw rheoliadau cynllun ffioedd?
Y rheoliadau cynllun ffioedd yw’r egwyddorion bras y cytunwyd arnynt yn y Cynulliad Cenedlaethol sy’n rhagnodi cynnwys a hyd cynlluniau ffioedd y mae’n rhaid eu cael gan sefydliadau sy’n dymuno codi ffioedd dysgu sy’n uwch na’r swm sylfaenol. Yn ogystal maen nhw’n nodi’r hyn sy’n ofynnol gan CCAUC wrth gymeradwyo a gorfodi cynlluniau. Mae’r rheoliadau drafft yn nodi y bydd pob cynllun ffioedd yn parhau am uchafswm o ddwy flynedd a rhaid iddynt nodi amcanion y sefydliad o ran hyrwyddo cydraddoldeb cyfle a hyrwyddo addysg uwch.

Erys nifer o feysydd y mae’r Brifysgol wedi gofyn am eglurhad amdanynt a chyhoeddir rhagor o wybodaeth pan fydd rhagor o fanylion ar gael.