Trysorau Cudd
29/07/2010
Oes gennych chi eiddo rydych chi wedi’i etifeddu gartref sy’n gysylltiedig â’r Rhyfel Byd Cyntaf? Dyddiadur wedi’i ysgrifennu o flaen y gad gan berthynas, efallai, neu gasgliad o lythyrau a roddwyd i’w cadw yng nghefn drôr?
Mae’r Ysgol Hanes ac Archaeoleg wedi lansio prosiect newydd sy’n rhoi cyfle i bobl ledled Cymru rannu’r trysorau anghofiedig hyn a’u hanes teuluol â gweddill y genedl.
O dan arweiniad Dr Gethin Matthews, mae Cymry’r Rhyfel Mawr Ar-Lein yn brosiect cymunedol digidol sy’n ceisio casglu arteffactau ac eitemau sy’n dal i fod mewn dwylo preifat a rhoi llwyfan cyhoeddus iddynt.
Mae’r tîm yn chwilio am bopeth o lythyrau i ddyddiaduron, cardiau post a darnau o’r papur newydd. Mae ganddyn nhw ddiddordeb hefyd mewn clywed storïau sydd wedi’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth am y rhyfel.
Wrth sôn am y prosiect, meddai Dr Matthews, sy’n ddarlithydd mewn Hanes Cymru yn yr Ysgol Hanes ac Archaeoleg: “Y Rhyfel Mawr yw un o’r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes y byd a phrif nod y prosiect yw archwilio’r effaith leol enfawr a gafodd ar Gymru. Rydym yn gobeithio y bydd yn denu sylw pobl ac yn eu hannog i gyfrannu.”
Gall pobl gymryd rhan yn y prosiect drwy fynd i un o saith sioe deithiol ledled Cymru neu drwy lwytho delweddau a gwybodaeth i fyny i wefan y prosiect, sef www.rhyfelmawr.com.
Digwyddodd y sioe deithiol gyntaf yn Amgueddfa San Ffagan a chynhelir sioeau teithiol eraill yn Wrecsam, Casnewydd, Aberystwyth, Abertawe, Blaenafon a Llanberis.
Ar ôl cael eu catalogio, bydd y deunydd ar gael i bawb drwy wefan Casgliad y Bobl, menter fawr wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a fydd yn cael ei lansio yn Eisteddfod Genedlaethol 2010 yng Nglyn Ebwy.
“Y syniad yw y bydd ysgolion, mudiadau, academyddion a’r cyhoedd yn gallu cael mynediad i’r casgliad i gael gwybodaeth newydd am safbwyntiau Cymreig am y Rhyfel Mawr,” medd Gethin. “Bydd y casgliad hefyd yn rhoi goleuni newydd ar y gwahaniaethau yn yr ymateb i’r rhyfel gan bobl yng Ngogledd Cymru a De Cymru, neu rhwng ardaloedd diwydiannol a gwledig y wlad. Mae’n siŵr y bydd rhai o’r canfyddiadau’n newid y ffordd rydym yn meddwl am yr effaith a gafodd y rhyfel ar Gymru.”

