Anrhydeddu'r Brifysgol oherwydd partneriaeth canser â China
29 Hydref 2010

Dr Grant yn arwyddo'r Memorandwm Dealltwriaeth gyda'r Athro Xiao Ming Wang, Dirprwy Lywydd, Prifysgol Capital Medical
Mae Dr David Grant, Is-Ganghellor, wedi cael ei anrhydeddu gan Brifysgol Capital Medical yn China i gydnabod partneriaeth ymchwil canser arloesol y ddau sefydliad.
Mae Caerdydd a Captial Medical wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd ers nifer o flynyddoedd ar ddulliau newydd i drin canser y fron a'r prostad. Yn 2007, llofnodwyd cytundeb ffurfiol i ymchwilwyr Capital Medical ddod i weithio i Ysgol Feddygol Caerdydd a gweithio gyda'r Athro Wen Jiang, o dalaith Shandong yn China, sy'n un o brif ymchwilwyr canser y byd.
Ers y cytundeb, mae chwe chymrawd ymchwil o Capital Medical wedi dod i Gaerdydd ac mae 14 papur wedi cael eu hysgrifennu i gynadleddau a chyfnodolion o ganlyniad. Mae'r ymchwilwyr wedi bod yn gweithio ar fetastasis canser y fron a'r prostad - sut mae'r afiechyd yn ymledu o gwmpas y corff o'r tiwmor gwreiddiol.

Dr Grant yn derbyn ei wobr oddi wrth Li Ming, Cadeirydd y Bwrdd, Prifysgol Capital Medical
Nawr mae Prifysgol Capital Medical wedi gwneud Dr Grant yn ymgynghorydd rhyngwladol - y person cyntaf o'r DU i gael ei anrhydeddu fel hyn. Yr unig rai eraill sydd wedi derbyn yr anrhydedd bwysig hon yw Gerhard Schröder, cyn-Ganghellor yr Almaen a'r Athro Tomas Hökfelt, Athro Emeritus yn Sefydliad Karolinska Sweden.
Cynhaliwyd y seremoni yn Neuadd Fawr y Bobl yn Beijing, a fynychwyd gan gynrychiolwyr o Lysgenhadaeth Prydain a'r Cyngor Prydeinig yn China. Derbyniodd Dr Grant y wobr gan Gadeirydd y Bwrdd yn Prifysgol Capital Medical, Li Ming.
Llofnodwyd cytundeb pellach hefyd rhwng y ddwy brifysgol, fel bod 20 o ysgolheigion eraill yn gallu dod i Gaerdydd dros y pedair blynedd nesaf. Mae'r trefniant wedi cael ei ariannu gan Albert Hung, yr entrepreneur a dyngarwr o Hong Kong, sydd wedi cefnogi nifer o fentrau ar y cyd rhwng Caerdydd a gwyddonwyr meddygol o China.

O'r chwith i'r dde: Mr Albert Hung, Dr Grant a'r Athro Xiao Ming Wang, Dirprwy Lywydd, Prifysgol capital Medical, yn y seremoni lofnodi.
Meddai Dr Grant am ei wobr: "Rwy'n gweld hyn yn gydnabyddiaeth o'r gwaith ardderchog rhwng ein dau sefydliad sydd wedi digwydd hyd yma. Mae'r rhaglen ysgolheigion ar ymweliad rhwng Caerdydd a Capital Medical yn enghraifft dda iawn o lle mae gweithgareddau rhyngwladol yn gallu bod o fudd mawr wrth ymdrin â materion byd-eang. Mae'r cynnydd mewn canser y fron yn China yn fater o bwys. Drwy gyfuno arbenigedd ymchwil a rhannu gwybodaeth gallwn adeiladu ar y wybodaeth bresennol a gwneud camau breision yn ein blaenau."
Daeth yr anrhydedd yn rhan o ymweliad llwyddiannus gan dîm o ymchwilwyr o Gaerdydd, gan adeiladu ar nifer o bartneriaethau cryf y Brifysgol yn China. Siaradodd uwch ymchwilwyr o Ysgol Feddygol Caerdydd yng Nghynhadledd Canser Ryngwladol Capital ar gyfer 2010. Siaradodd yr Athro Jiang ar fetastasis a'r siaradwyr eraill oedd:
Yr Athro Malcolm Mason - datblygiadau newydd wrth drin canser y prostad ag ymbelydredd
Yr Athro Paul Morgan (Deon, Ysgol Feddygol Caerdydd) - rôl y system gyflenwi mewn canser
Yr Athro Robert Mansel - Ymchwil i fiopsi cnotiau gwylwyr, sydd bellach yn golygu nad oes rhaid i nifer o gleifion canser y fron gael llawdriniaeth ddiangen.

