Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Varsity 2011

31/01/2011

Dwy brifysgol. 20 camp. Un diwrnod o gystadlu.

Ar 30 Mawrth 2011 bydd myfyrwyr Caerdydd yn mynd benben â myfyrwyr Abertawe i weld pwy sy’n haeddu ennill Tarian Varsity, symbol o ragoriaeth drwyddi draw ym myd y campau.

Bydd timau campau sy’n cynnwys badminton, pêl-droed, golff a lacrós yn cael eu cefnogi mewn lleoliadau ar draws Caerdydd nes y bydd y cyfan yn cyrraedd penllanw yn y prif ddigwyddiad – y frwydr am Gwpan Rygbi Varsity.

Eleni, er mwyn cydnabod 15fed pen-blwydd cystadleuaeth Varsity, bydd y chwaraewyr yn mynd i’r cae yn Stadiwm y Mileniwm, cartref rygbi Cymru.

I ddynodi’r pen-blwydd ac i edrych ymlaen at y gêmau, cafodd Prif Adeilad y Brifysgol ar Barc y Plas ei oleuo â logo Varsity. Hefyd cynhaliwyd derbyniad i’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth gyda gwesteion a wahoddwyd o’r Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a Stadiwm y Mileniwm.

Meddai Jack Perkins, Llywydd Athletau, Undeb y Myfyrwyr: “Gan fod Gêmau Varsity yn symud i Sefydliad Chwaraeon Cymru a’i gyfleusterau gwych a’r gêm rygbi’n symud i Stadiwm y Mileniwm, mae’n debyg mai gêmau Varsity eleni fydd y gorau erioed. Dyma 15fed pen-blwydd y gystadleuaeth felly rwy’n gobeithio y bydd timau Caerdydd yn drech na rhai Abertawe unwaith eto gan nad dyma’r flwyddyn i golli’r Darian am y tro cyntaf. Rwy’n edrych ymlaen at 30 Mawrth!”

Mae tocynnau i’r gêm yn Stadiwm Mileniwm, sy’n dechrau am 7.00 p.m. ar 30 Mawrth ar gael gan Ticketmaster online: ticketmaster.co.uk a dros y ffôn: 08442 777888.
Gall staff a myfyrwyr Caerdydd fynd i welshvarsity.com, cardiffboxoffice.com neu ffonio Swyddfa Docynnau Undeb Myfyrwyr Caerdydd.  

Mark Schropfer

Mark Schropfer

Enw: Mark Schropfer
Sgwad: XV 1af y Dynion
Yn astudio yn: Ysgol y Gyfraith, Caerdydd
Dyddiad geni: 14/02/90
Man geni: Abertawe
Taldra: 1.50m
Pwysau: 80.0kg

Mae Mark, a raddiodd o Ysgol Olchfa yn Abertawe, yn astudio’r Gyfraith yng Nghaerdydd. Mae’n hen law ar gêmau Varsity ac yn aelod amhrisiadwy o sgwad y XV cyntaf. Mark yw ysgogydd pennaf y clwb ac mae ym mhob gêm a sesiwn hyfforddi pa un ai yw e’n ffit neu wedi’i anafu.

Mae Mark wedi cynrychioli Cymru mewn timau o dan 16, ac o dan 18 yn erbyn Lloegr a’r Eidal, gyda’r capiau’n dod yn sgil perfformiadau cryf i sgwadiau’r Gweilch.

Wrth siarad am gêm Varsity, meddai Mark: “Varsity yw’r eiliad bwysig honno yn y tymor lle mae dau dîm sy’n cystadlu’n frwd â’i gilydd yn dod â phopeth i’r maes. Mae cynrychioli’r Brifysgol mewn digwyddiad mor fawreddog gyda hanes mor wych yn anrhydedd o’r iawn ryw. I’r rhan fwyaf ohonon ni, dyma’r digwyddiad mwyaf y byddwn ni’n chwarae ynddo byth ac i eraill, gall fod yn gam tuag at adeiladu eu gyrfaoedd, ond i bawb, dyma goron pob tymor gyda Chlwb Rygbi Prifysgol Caerdydd. Mae pawb yn teimlo cryn falchder wrth chwarae’n dda ac rwy’n siŵr y bydd y gwylwyr yn gallu gweld beth yw ystyr Varsity; yr angerdd, yr ysbryd, y tîm.”