Llwyddiant Tarian Varsity
15 Ebrill 2011

"Mae Tarian Varsity yn symbol o ragoriaeth gyffredinol mewn chwaraeon a gwnaeth myfyrwyr Caerdydd eu gorau glas,” meddai Jack Perkins, Llywydd yr Undeb Athletau. “Dydy Caerdydd ddim wedi methu ennill Tarian Varsity erioed a dwi wrth fy modd fod cystadleuwyr 2011 wedi parhau â’r traddodiad hwn.”
Llwyddodd myfyrwyr Caerdydd i ennill Tarian Varsity am y nawfed flwyddyn o’r bron gyda pherfformiadau gwych ar y meysydd chwarae.
Ar 30 Mawrth aeth chwaraewyr talentog o brifysgolion Caerdydd ac Abertawe benben yn Athrofa Chwaraeon Cymru mewn chwaraeon oedd yn cynnwys badminton, sboncen a hoci.
Roedd cystadlaethau syrffio, sgïo, eirafyrddio ac athletau ar ddyddiadau eraill yn cyfrif tuag at Darian Varsity. Y canlyniad terfynol oedd buddugoliaeth i Gaerdydd dros Abertawe drwy ennill 18 cystadleuaeth o’i gymharu â 10 Abertawe.
Penllanw’r diwrnod oedd gêm rygbi Varsity, a gynhaliwyd yn Stadiwm y Mileniwm i ddynodi 15fed pen-blwydd y gêm. Darlledwyd y gêm am y tro cyntaf ar S4C a daeth dros 14,000 o wylwyr i gefnogi eu tîm.
Daeth y gêm agos i ben gydag Abertawe’n codi Cwpan Varsity, gan guro Caerdydd o 28 pwynt i 18.
Tabl canlyniadau llawn
| CYSTADLAETHAU TARIAN VARSITY DYDD MERCHER 30 MAWRTH 2011 | |||
Clwb |
CAERDYDD |
ABERTAWE |
CANLYNIAD |
|---|---|---|---|
Rygbi’r Glasfyfyrwyr |
|
ENNILL |
ABERTAWE AR GICIAU ADLAM |
Golff |
|
ENNILL |
ABERTAWE 4-3 |
Pêl-droed IMG |
|
ENNILL |
ABERTAWE 4-1 |
Badminton Merched |
|
ENNILL |
ABERTAWE 5-3 |
Pêl-fasged Merched |
|
ENNILL |
ABERTAWE 65-53 |
Cleddyfaeth Merched |
ENNILL |
|
CAERDYDD 135-72 |
Pêl-droed Merched |
ENNILL |
|
CAERDYDD 7-0 |
Hoci Merched |
|
ENNILL |
ABERTAWE 7-6 – Ffliciau cosb |
Lacrós Merched |
ENNILL |
|
CAERDYDD 14-0 |
Rygbi Merched |
ENNILL |
|
CAERDYDD 54-5 |
Sboncen Merched |
ENNILL |
|
CAERDYDD 4-0 |
Pêl-fasged Dynion |
ENNILL |
|
CAERDYDD 86-61 |
Cleddyfaeth Dynion |
ENNILL |
|
CAERDYDD 134-110 |
Pêl-droed Dynion |
|
|
DRAW 1-1 |
Hoci Dynion |
ENNILL |
|
CAERDYDD 6-2 |
Lacrós Dynion |
|
ENNILL |
ABERTAWE 4-3 |
Sboncen Dynion |
ENNILL |
|
CAERDYDD 5-0 |
Badminton Dynion |
ENNILL |
|
CAERDYDD 7-1 |
Tennis Dynion |
ENNILL |
|
CAERDYDD 8-4 |
Pêl-rwyd |
ENNILL |
|
CAERDYDD 57-35 |
Rhwyfo |
ENNILL |
|
|
Hwylio |
|
ENNILL |
|
Tae Kwon Do |
ENNILL |
|
|
Ultimate Frisbee |
ENNILL |
|
CAERDYDD 15-2 |
Tennis Merched |
ENNILL |
|
CAERDYDD 10-2 |
|
|
|
|
Cystadlaethau ar Ddyddiadau Eraill |
|
|
|
Syrffio |
ENNILL |
|
|
Sgïo |
|
ENNILL |
|
Eirafyrddio |
ENNILL |
|
|
Athletau |
|
ENNILL |
|
Cyfanswm Cystadlaethau Varsity |
18 |
10 |
CAERDYDD ENNILL 18-10 |
|
|
|
|
RYGBI DYNION |
|
ENNILL |
ABERTAWE 28-18 |

