Clychau Priodas
15 Ebrill 2011
Mae Mike Davey sy’n gweithio yn ystafell bost y Brifysgol yn priodi â Debbie, ei bartner tymor hir ar 29 Ebrill.. Yma, mae Mike yn egluro sut cyfarfu’r ddau a sut mae’n teimlo am rannu ei ddiwrnod mawr â’r Tywysog William a Kate Middleton.
“Fe gwrddais i â Debbie yn yr ysgol,” meddai Mike, “ond symudodd hi i ffwrdd i Rydychen. Welais i mohoni hi am ryw 20 mlynedd, ond un dydd Nadolig roeddwn i allan gyda ffrindiau mewn tafarn pan welais i hi. Fe fuon ni’n siarad am yr hen ddyddiau am dipyn. Chwe blynedd yn ddiweddarach, fe welais i hi eto a’r tro hwn fe ofynnais iddi ddod allan gyda fi. Fe gytunodd hi ac ry’n ni wedi bod gyda’n gilydd ers hynny.
“Mae’r briodas yn digwydd ar 29 Ebrill. Trefnon ni’r briodas ym mis Ionawr 2010 - fe ddechreuon ni mor gynnar â hynny er mwyn gwneud yn siŵr y byddai popeth yn mynd yn rhwydd. Ym mis Hydref y llynedd, fe gyhoeddodd William a Kate eu bod nhw’n priodi, a chopïo ein dyddiad ni.
“Fe gysylltodd BBC Radio Wales â ni, maen nhw’n cyfweld â ni am ein cynlluniau - maen nhw’n ei galw hi’n Briodas Frenhinol Caerdydd! Fe fydd ein cyfweliad olaf ar 22 Ebrill, wythnos cyn y dyddiad mawr. Ry’n ni’n falch bod William a Kate yn rhannu ein dyddiad ni.”
Gwyliau banc ychwanegol: 29 Ebrill 2011 & 5 Mehefin 2012
Bydd y Brifysgol ar gau 29 Ebrill 2011 a phob aelod o staff yn cael Gŵyl Banc ychwanegol i ddynodi’r Briodas Frenhinol.
Y flwyddyn nesaf, yn 2012, i ddynodi Jiwbilî Diemwnt y Frenhines bydd Gŵyl Banc ychwanegol hefyd ddydd Mawrth 5 Mehefin, gyda’r Ŵyl Banc draddodiadol ar ddiwedd Mai yn cael ei symud i 4 Mehefin fel ei fod yn benwythnos pedwar diwrnod.
Ceir gwybodaeth am wyliau staff ar:
http://www.cardiff.ac.uk/humrs/staffinfo/holidays/index.html

