Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Beth yw Ffynnu?

23 Ebr 2012

Beth yw Ffynnu?

Mae Ffynnu yn ymgorffori corff mawr o waith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan swyddfa recriwtio israddedigion y Brifysgol ac sy'n ymestyn allan i gefnogi ysgolion academaidd ar draws y Brifysgol.

Nod Ffynnu yw rhoi ffocws o'r newydd i neges y Brifysgol i ddarpar fyfyrwyr israddedig.

Mae ei nodau a'i weithgarwch yn canolbwyntio ar gynyddu cyfraddau'r ceisiadau i'r Brifysgol, yn benodol gan fyfyrwyr uchel eu cyflawniad sy'n cynnig graddau AAB+ neu gyfwerth ac, yn hollbwysig, yn codi cyfraddau trosi'r ymgeiswyr hynny sy'n cael cynnig gan Gaerdydd.

Beth yw negeseuon allweddol Ffynnu?

  • Enw da a thrylwyredd academaidd y Brifysgol a phob ysgol unigol
  • Byw mewn Prifddinas a chostau byw yng Nghaerdydd o gymharu â lleoliadau eraill
  • Cyflogadwyedd a gwerth gydol oes addysg yng Nghaerdydd
  • Profiad o fywyd myfyriwr ac Undeb y Myfyrwyr

Beth sydd wedi'i wneud?

Mae gwaith wedi cynnwys ailgynllunio prosbectws y Brifysgol, a chyhoeddiadau eraill fel y canllawiau i rieni a'r canllawiau preswylfeydd.

Mae gwaith brandio Ffynnu, tynnu ffotograffau ychwanegol o gyfleusterau newydd y Brifysgol mewn ysgolion ac ailysgrifennu darnau penodol o wybodaeth wedi cael eu gwneud. Bydd yr ymgyrch yn parhau i esblygu dros y blynyddoedd i ddod a bydd y fformat a'r cynllun yn cael eu defnyddio yn llyfrynnau newydd Ysgolion pan fyddant yn cael eu diweddaru gan bob Ysgol.

Mae tudalennau gwe'r Brifysgol i israddedigion hefyd yn cael eu hailgynllunio, gyda gwybodaeth newydd a chyfrwng chwilio mwy greddfol trwy dudalennau sy'n gymhleth ar hyn o bryd. Hefyd, byddant yn cynnwys nodweddion sydd â mwy o amrywiaeth o gyfryngau, fel fideos o'r llety, cyfweliadau â myfyrwyr a fideos ar ffordd o fyw myfyrwyr.

Bydd cyfrifiannell ysgoloriaethau, bwrsarïau a ffioedd yn cael ei hychwanegu at y wefan yn fuan. Bydd hyn yn caniatáu i fyfyrwyr gyfrifo cymorth ariannol y brifysgol a'r llywodraeth a allai fod ar gael i fyfyrwyr, yn ôl incwm y cartref.

Mae ein rhaglen gyswllt ag ysgolion a cholegau wedi targedu 90 o ysgolion eraill er mwyn helpu i gynyddu nifer yr ymgeiswyr i'r Brifysgol. Mae cyllid ar gyfer y staff ychwanegol i reoli'r cynnydd wedi cael ei ryddhau fel rhan o ymgyrch Ffynnu.

Mae delweddau a brandio Ffynnu hefyd wedi cael eu cyflwyno i'r rhaglen. Yn ogystal, bwriedir bod Diwrnod Ymweld ychwanegol â'r Brifysgol yn cael ei gynnal ar 6 Gorffennaf gan roi cyfle ychwanegol i ymgeiswyr ymweld â'r Brifysgol a'r Ddinas, a gweld ein cyfleusterau a siarad ag academyddion am y cyrsiau sydd o ddiddordeb iddynt.

Mae rhagor o wybodaeth am Ffynnu ar gael ar wefan Ffynnu: www.caerdydd.ac.uk/ffynnu