Cydraddoldeb yn y Gweithle
31 Ionawr 2012

Yr Athro Terry Threadgold
Cydraddoldeb yn y Gweithle
Mae'r Athro Terry Threadgold, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd dros Staff ac Amrywiaeth, wedi cael ei henwi'n Bencampwr Gweithle'r Flwyddyn yng Nghymru gan Stonewall Cymru am ei gwaith ar faterion cydraddoldeb Lesbaidd, Hoyw a Deurywiol.
Daeth y wobr wrth i'r Brifysgol gael ei gosod yn 49fed ym Mynegai Cydraddoldeb y Gweithle 2012 Stonewall sy'n rhestru'r 100 Cyflogwr Uchaf i gydnabod ei hymrwymiad i gydraddoldeb i weithwyr lesbaidd, hoyw a deurywiol.
Dyma'r ail flwyddyn o'r bron i'r Brifysgol gyrraedd y 100 Uchaf ac mae wedi codi dros 30 lle yn ystod y deuddeg mis a aeth heibio.
Mae gwobr 'Pencampwr Gweithle'r Flwyddyn yng Nghymru' yn cydnabod uwch arweinwyr sydd wedi gweddnewid diwylliant eu sefydliad a phrofiad gweithle staff lesbaidd, hoyw a deurywiol.
Mae'r mynegai'n dynodi'r cynnydd a wnaed gan sefydliadau yn y DU o ran cydraddoldeb lesbaidd, hoyw a deurywiol yn y gweithle ac mae'n dal i fod yn ddull pwerus y mae 1.7 miliwn gweithiwr hoyw a 150,000 myfyriwr prifysgol hoyw Prydain yn ei ddefnyddio i benderfynu lle dylen nhw fynd â'u doniau a'u sgiliau.
Meddai'r Athro Threadgold: "Rwy' wrth fy modd bod ein harferion cyflogaeth da wedi cael eu cydnabod eto ac mae'n wych cael anrhydedd bersonol fel hon gan Stonewall Cymru. Mae safle Caerdydd yn y rhestr yn dangos ein bod yn dal i ymrwymo i gydraddoldeb a sicrhau gweithle cynhwysol, croesawgar a chynhyrchiol."
Mae urddas, cwrteisi a pharch yn dri o werthoedd craidd Prifysgol Caerdydd ac mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn thema allweddol i fenter Amgylchedd Gweithio Cadarnhaol y Brifysgol.
Meddai Karen Cooke, Cadeirydd Enfys, rhwydwaith LGBT+ y staff: "Mae ein cyrhaeddiad yn y mynegai eleni'n destun llawenydd ac mae'n cynrychioli gwaith caled llawer o bobl i godi proffil cydraddoldeb LGBT+. Mae Mynegai Stonewall yn feincnod defnyddiol ond nid dyna ben draw'r holl waith y mae angen ei wneud o hyd o gwmpas y Brifysgol o bell ffordd.
"Rwy' hefyd wrth fy modd fod Terry yn cael ei chydnabod am ei chyfraniad enfawr i'r rhwydwaith a staff LGBT+ yn gyffredinol. Bydd nifer o aelodau staff heb fod yn ymwybodol o'i chyfraniad sylweddol ond mae'n deg dweud na fydden ni wedi cyflawni'r hyn rydym wedi'i gyflawni heb ei chefnogaeth a'i phroffesiynoldeb. Mae'n hanfodol bod staff uwch yn ymgysylltu ag agenda LGBT+ ac yn ymrwymo iddo."
Ychwanegodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: "Mae'n hanfodol cael cefnogaeth gan uwch reolwyr wrth greu gweithleoedd cynhwysol a chyfartal i staff lesbaidd, hoyw a deurywiol. Mae'n amlwg o'r adborth rydym wedi'i gael gan staff Prifysgol Caerdydd fod yr Athro Threadgold a'i thîm wedi bod yn allweddol i lwyddiant y sefydliad ym Mynegai Cydraddoldeb y Gweithle eleni.
"Hoffwn longyfarch y Dirprwy Is Ganghellor am gael ei henwi'n 'Bencampwr Gweithle Cymru' 2012 a gobeithio y bydd ei gwaith yn parhau i wella bywydau staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd – gan roi'r cyfle iddyn nhw fod yn nhw eu hunain mewn gwirionedd a pherfformio'n well o ganlyniad."
Dolenni perthnasol

