
Materion Asesu
Sefydlwyd prosiect Materion Asesu ddwy flynedd yn ôl er mwyn gwella adborth academaidd i fyfyrwyr a gwella cysondeb mewn prosesau ac arfer asesu. Cewch ddarganfod mwy am gynnydd y prosiect yn y rhifyn hwn o Blas.

Dyfodol Caerdydd
Mae Dyfodol Caerdydd yn rhaglen ddatblygu arloesol, a arweinir gan ein darpar Is-ganghellor, yr Athro Colin Riordan. Cynlluniwyd y rhaglen i gefnogi ysgolheigion yn gynnar yn eu gyrfa, a'r rhai sy'n gymharol newydd i'r Brifysgol, i ddatblygu eu llwybr gyrfa ac i ystyried sut y gallant gyfrannu at lunio dyfodol ein Prifysgol.

Newyddion Caerdydd
Mae rhifyn mis Mehefin o Newyddion Caerdydd bellach ar gael ar-lein. Darganfyddwch fwy am yr hyn mae'r Brifysgol yn ei wneud yn y cyfnod yn arwain at Gemau Olympaidd 2012 a chwrdd â rhai o'r myfyrwyr sy'n cyfuno'u hastudiaethau gyda chwaraeon ar lefel ryngwladol ar Raglen Perfformiad Uchel Caerdydd.

