Skip to content
Skip to navigation menu

English

 

Mae Coleg Graddedigion newydd y Brifysgol yn cyfuno gwaith y pedair ysgol flaenorol i raddedigion oedd yn seiliedig ar ddisgyblaethau yn ogystal â gweithgarwch ymchwil ôl-raddedig Canolfan y Graddedigion. Ei nod yw cynorthwyo gwaith ysgolion academaidd a goruchwylwyr ac ehangu profiad myfyrwyr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Research students enjoying one of Cardiff's many parks

Mae gan Goleg Graddedigion y Brifysgol bedwar maes rhaglen sy’n gysylltiedig â’i gilydd:

  • Mae’n cyflwyno rhaglen integredig a chyfunol o hyfforddiant a datblygu i ymchwilwyr ôl-raddedig dan arweiniad academyddion drwy Raglen Coleg Graddedigion y Brifysgol (RSSDP yn flaenorol). Mae hefyd yn cynnig gweithgareddau fel cynadleddau, darlithoedd a seminarau sy’n galluogi ymchwilwyr ar draws y Brifysgol i ddod ynghyd.
  • Mae’n gwarantu profiad o ansawdd i ymchwilwyr ôl-raddedig drwy ddatblygu a monitro prosesau sy’n derbyn eu hadborth a’u cynrychiolaeth; cyfathrebu a monitro sut gweithredir y Côd Arferion ar gyfer Rhaglenni Gradd Ymchwil; ehangu systemau i gynorthwyo sut rheoli graddau ymchwil; ac ehangu cymorth i oruchwylwyr.     
  • Mae’n cydlynu gwaith i wella adnoddau a gwneud yn siŵr bod hyfforddiant ymchwil i raddedigion yn cyd-fynd â chryfderau a blaenoriaethau ymchwil y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys bod yn gysylltiedig â recriwtio ymchwilwyr ôl-raddedig; datblygu ysgoloriaethau ychwanegol; ehangu darpariaeth drwy bartneriaethau gyda phrifysgolion eraill, consortia, cymdeithasau dysgedig a diwydiant; ac
  • Mae’n flaenllaw o ran darparu cyfleusterau ffisegol a rhithwir o’r radd flaenaf i ymchwilwyr ôl-raddedig ac yn ceisio gwneud yn siŵr fod cyfleusterau’r Brifysgol yn ymateb i anghenion yr ymchwilydd.

Postgraduate researchers discuss their work

Mae ei weithdrefn, sy’n seiliedig ar yr angen i gynnal cysylltiad â’r sylfaen wybodaeth academaidd, yn cynnwys rhoi cynrychiolaeth i Gyfarwyddwyr Ymchwil Ôl-raddedig yn ogystal â’r ymchwilwyr, a cheisio annog goruchwylwyr ymchwil i ddweud eu dweud.   

Yng ngham cyntaf y broses, mae Coleg Graddedigion y Brifysgol yn canolbwyntio ar fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn bennaf. Fodd bynnag, yn rhan o’r nod mwy hirdymor o reoli datblygu a chynorthwyo sgiliau’n gyfannol yn barhaus drwy gydol cylch bywyd ymchwilydd, mae Coleg Graddedigion y Brifysgol yn cynnig gweithgaredd ar y cyd i ymchwilwyr ôl-raddedig a staff ymchwil lle y bo’n briodol.