Gweithgareddau Campws Cyntaf

Mae Prifysgol Caerdydd yn aelod o Gampws Cyntaf - y Bartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach sy'n cwmpasu de-ddwyrain Cymru. Cafodd Ymgyrraedd yn Ehangach ei sefydlu yn 2002 gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Ei chenhadaeth yw chwalu'r rhwystrau canfyddedig i addysg uwch ac ehangu mynediad at ddysgu. Drwy gydweithio, mae Campws Cyntaf yn darparu cyfres o weithgareddau ar gyfer croestoriad eang o ddisgyblion ac oedolion sy'n dysgu. Mae'r gweithgareddau yn ategu'r cwricwlwm, cyfoethogi astudiaethau, ac annog cyfranogiad.
Mae Prifysgol Caerdydd yn darparu nifer o brosiectau ar gyfer Campws Cyntaf ar hyn o bryd:
Ysgol Haf Dyfodol Hyderus
Caiff y rhaglen arbenigol hon ei chynnal gyda chymorth awdurdodau lleol Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf ac mae wedi ei chynllunio i godi dyheadau a hyrwyddo cyfleoedd i bobl ifanc sy'n gadael gofal. Mae'n cynnwys ysgol haf breswyl a chlwb cymorth gwaith cartref. Bydd awdurdodau lleol Caerdydd a Bro Morgannwg yn dod yn rhan o'r rhaglen hon hefyd.
Ysgol Haf Darganfod
Mae'r rhaglen unigryw hon yn cynnig blas ar fywyd prifysgol i bobl sydd â Syndrom Asperger. Mae ysgol haf breswyl, a gaiff ei chynnal gyda chymorth gan Awtistiaeth Cymru a NAS Cymru, yn caniatáu i fyfyrwyr gyda Syndrom Asperger a'u gofalwyr ddod â phrofi bywyd y brifysgol, i'w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus yn y dyfodol. Cafodd y rhaglen hon ei chydnabod gan arbenigwyr fel enghraifft o arfer da. Mae staff wedi rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru yn y maes hwn.

Cwrs Adolygu Mathemateg ar gyfer Disgyblion Galluog a Thalentog
Mae'r rhaglen hon yn cynnig cwrs adolygu mathemateg TGAU dwys dros dridiau yn ystod gwyliau’r Pasg i fyfyrwyr galluog a thalentog o ysgolion partner yng Nghaerdydd ac ardal Blaenau'r Cymoedd. Caiff y rhaglen ei chynnal ar y cyd â sefydliadau addysg bellach ac uwch lleol, yn ogystal ag awdurdodau lleol yn ardal Blaenau'r Cymoedd.
Diwrnodau Ysbrydoliaeth Prifysgol
Mae Campws Cyntaf yn ariannu diwrnodau Ysbrydoliaeth Prifysgol, sef cynadleddau undydd ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 11 mewn ysgolion partner. Eu nod yw hybu addysg uwch a chodi dyheadau. Gwahoddir rhieni i'r ffair bwnc a chyflwyniad ar fanteision addysg uwch.
Gwybodaeth bellach
Gallwch gael gwybod mwy am ein Gweithgareddau Campws Cyntaf trwy gysylltu â'r Uwch-swyddog Ehangu Mynediad.

