Skip to content
Skip to navigation menu

 

Y Sioe Deithiol Addysg Uwch

Female student on laptop in library

Mae'r Sioe Deithiol Addysg Uwch yn ymweld ag ysgolion a cholegau ledled Cymru ac yn bennaf mae'n targedu ardaloedd ble mae cyfraddau isel o symud ymlaen i addysg uwch.

Nod y Sioe Deithiol yw:

  • codi ymwybyddiaeth ynghylch addysg uwch
  • hyrwyddo buddion addysg uwch
  • ysgogi disgyblion
  • rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad.

Ysgolion a Cholegau

Mae'r Sioe Deithiol yn cynnal rhaglen ar gyfer gwasanaethau ysgolion sy'n ein galluogi i roi cyflwyniad i grŵp blwyddyn gyfan ym mhob ysgol. Mae cyflwyniadau ar wahân ar gyfer grwpiau o ddisgyblion Blwyddyn 10 ac 11 a gaiff eu cyflwyno gan aelodau profiadol o'r staff. Mae'r cyflwyniadau hyn yn cynnwys cwis ynghylch goresgyn camsyniadau cyffredin am brifysgolion, DVD sy'n dangos manteision addysg uwch, a chyflwyniad am fywyd myfyrwyr. Bob blwyddyn, mae'r Sioe Deithiol Addysg Uwch yn cynnal tua 100 o ymweliadau ag ysgolion a cholegau ac mae dros 15,000 o ddisgyblion yn elwa o'r gwaith hwn.

Partneriaeth

Mae'r Sioe Deithiol Addysg Uwch yn brosiect cydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd ac UWIC (Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd). Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol ym 1998, a chaiff ei rheoli gan Brifysgol Caerdydd.

Gwybodaeth bellach

Gallwch gael gwybod mwy am y Sioe Deithiol Addysg Uwch a threfnu ymweliadau trwy gysylltu â'r Swyddog Sioe Deithiol AU.

  • A Oeddech Chi'n Gwybod...?

    Bob blwyddyn, mae'r Sioe Deithiol Addysg Uwch yn cynnal dros 100 o ymweliadau ag ysgolion a cholegau ledled Cymru. Mae dros 15,000 o fyfyrwyr yn elwa o'r cyflwyniadau sydd wedi'u cynllunio i godi dyheadau disgyblion a hyrwyddo'r buddion y gall addysg uwch eu cynnig.

  • "Roedd y Sioe Deithiol AU yn bleserus ac roedd y disgyblion a'r staff yn ei chael hi'n addysgiadol iawn. Rhoddodd gyngor ymarferol priodol ar gyfer pob gallu. Rwyf yn ei hargymell yn fawr."
    Claire Herbert - Rheolwr Pontio Ôl 16, Ysgol Abersychan