Skip to content
Skip to navigation menu

 

Recriwtio Myfyrwyr

Students outside front of Main Building

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i ehangu mynediad ac mae’n croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir. Mae'r Brifysgol yn cydnabod pwysigrwydd  sicrhau cymuned amrywiol a dawnus o fyfyrwyr, a'r manteision a ddaw yn sgil hyn i'n myfyrwyr a'r Brifysgol yn ei chyfanrwydd.

Mae'r Brifysgol wedi datblygu pecyn o ysgoloriaethau a bwrsarïau i sicrhau na fydd y gost o astudio yn rhwystr i addysg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hefyd yn bwriadu treialu'r defnydd o ddata cyd-destunol yn ei phroses derbyn ar gyfer Mynediad 2012, gyda'r bwriad i weithredu ar draws y Brifysgol ar gyfer Mynediad 2013. O Fynediad 2012, bydd UCAS yn sicrhau bod y data cyd-destunol ar gael i brifysgolion gyda phob cais. Mae'r Brifysgol yn bwriadu defnyddio'r data hwn, ynghyd â data arall o ffynonellau annibynnol, i ddatblygu ei model derbyn cyd-destunol. Caiff cyrhaeddiad academaidd ac anacademaidd ei adolygu yn erbyn perfformiad ysgolion a chefndir economaidd-gymdeithasol i roi trosolwg mwy cyflawn o gyrhaeddiad a photensial ymgeisydd i diwtoriaid derbyn.

Y tair ysgol beilot ar gyfer Mynediad 2012 fydd Ysgol Biowyddorau Caerdydd, Ysgol y Gyfraith Caerdydd ac Ysgol Feddygaeth Caerdydd. Ni fydd unrhyw ysgolion academaidd eraill yn defnyddio'r data hwn ar gyfer cylch derbyn 2012. Ni fydd y Brifysgol yn defnyddio data cyd-destunol i wneud cynigion is neu wahaniaethol i unrhyw grŵp penodol o fyfyrwyr. Bydd yr ysgolion sy'n cymryd rhan yn defnyddio'r data, er enghraifft, wrth benderfynu a ddylid galw ymgeisydd i gyfweliad.

Cysylltu

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Pennaeth Derbyn neu’r Pennaeth Recriwtio Israddedigion ac Ehangu Mynediad.

  • A Oeddech Chi'n Gwybod...?

    Daw 85% o fyfyrwyr israddedig Caerdydd o ysgolion a cholegau’r wladwriaeth.