Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion
Aelodau Newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
02/05/2013
Llongyfarchiadau i’r Athro Colin H Williams a Dr E. Wyn James sydd wedi eu hethol yn aelodau o Gymdeithas Ddysgedig Cymru eleni.
Rhestr fer Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr
12/04/2013
Llongyfarchiadau i Dr Angharad Naylor, darlithydd sydd yn gyfrifol am lwybr ail iaith Ysgol y Gymraeg, sydd wedi llwyddo i gyrraedd rhestr fer y Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr fel ‘Aelod staff mwyaf cynorthwyol’.
Llwyddiant triphlyg i fyfyrwraig PhD
10/04/2013
Mae Ceri Elen Morris, myfyrwraig sy’n dilyn PhD ysgrifennu creadigol yn yr Ysgol, wedi cael Gwanwyn gogoneddus. Mae ei gwaith creadigol wedi derbyn sylw a chlod ar draws Prydain ac, yn ddiweddar, wedi arwain at dri llwyddiant aruthrol.
Adolygiad o waith hyrwyddo’r Gymraeg yn gymunedol
09/04/2013
Llwyddodd Ysgol y Gymraeg i ennill comisiwn o £23,000 gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad, ar y cyd â Sbectrwm Cyf, o waith y Mentrau Iaith, y Cynlluniau Gweithredu Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg Aman Tawe.
Ysgoloriaethau'r Gronfa Ryngwladol
28/03/2013
Mae'n bleser gan Ysgol y Gymraeg wahodd ceisiadau ar gyfer Ysgoloriaethau’r Gronfa Ryngwladol a ariennir gan Brifysgol Caerdydd.
Heledd Lewis yn cipio'r goron yn Eisteddfod Ryng-gol 2013
28/03/2013
Llongyfarchiadau mawr i Heledd Lewis, un o fyfyrwyr yr Ysgol, sydd wedi ennill y goron yn yr Eisteddfod ryng-golegol eleni.
Myfyriwr MPhil yn ennill gwobr Llais y Dyniaethau
27/03/2013
Enillodd Awen Schiavone, un o'n myfyrwyr MPhil, wobr am gynhyrchu'r poster a'r cyflwyniad gorau yng Nghynhadledd Llais y Dyniaethau...
Digwyddiadau
Mai 2013
23 a 24 Mai 2013: Yn Nulyn
Yr Athro Colin Williams
Cynhadledd Ryngwladol ar Hawliau Ieithyddol Rhaglen
Trefnwyd ar y cyd â Chomisiynydd Iaith Iwerddon a Phrifysgol Dinas Dulyn
Darlithoedd: 'Language Rights in International Perspective', 'From Act to Action:The Way Ahead'
25 Mai 2013: Yn Hengoed
Dr E. Wyn James
‘Morgan John Rhys and his American Dairy, 1794-95’
Cymdeithas Hanes Gelli-gaer
Capel Hengoed, Cefn Hengoed, 2.00pm
29 Mai 2013: Yn Ljubljana, Slofenia
Dr E. Wyn James
'Praise in Chains: Aspects of the Welsh Literary Tradition'
Darlith i Ysgol y Graddedigion, Prifysgol Nova Gorica a Chanolfan Ymchwil Academi Slofenia ar gyfer y Gwyddorau a'r Celfyddydau (ZRC SAZU)
30 Mai 2013: Yn Ljubljana, Slofenia
Dr E. Wyn James
'Religion, Identity and Migration: The Case of Wales and the Welsh Diaspora in the USA and Patagonia'
Darlith i Ysgol y Graddedigion, Prifysgol Nova Gorica a Chanolfan Ymchwil Academi Slofenia ar gyfer y Gwyddorau a'r Celfyddydau (ZRC SAZU)
Mehefin 2013
3 Mehefin 2013: Ym Merthyr Tudful
Dr E. Wyn James
‘The Hymn-writers of Soar-Ynysgau’
Cymdeithas Hanes Merthyr Tudful
Canolfan Soar, Pontmorlais, 7.00pm
Gorffennaf 2013
5 Gorffennaf 2013: Yng Nghaerdydd
Diwrnod Agored y Brifysgol

