Diwrnod Adolygu TGAU: Yr Ysgol yn croesawu myfyrwyr ail iaith
29/03/2007
Mewn cydweithrediad â'r Rhaglen Ehangu Mynediad
Daeth dros 50 o ddisgyblion TGAU Cymraeg ail iaith o'r de ddwyrain i Ysgol y Gymraeg ddydd Mercher 28 Mawrth.
Y bwriad oedd rhoi'r cyfle iddynt weld sut y defnyddir y Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau a rhoi blas iddynt ar fywyd prifysgol.
Cafwyd gweithgareddau amrywiol yn ystod y dydd gan gynnwys sgwrs gan Alun a Mari, cyflwynwyr Planed Plant ar S4C, cyflwyniad ar wefannau Cymraeg rhyngweithiol Prifysgol Caerdydd a'r BBC a gweithdai iaith.
Roedd y disgyblion wedi cyflwyno erthyglau ar 'Yr Amgylchedd' ar gyfer ein cystadleuaeth a'r enillwyr oedd 1. Natalie Williams, 2. Kirstie Redward, 3. Esther Hughes o Ysgol Blaengwawr.
