Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Drama gerdd newydd gan Ceri Elen

25/03/2010

Poster Heb ei Fai...

Drama gerdd newydd sbon yw ‘Heb ei Fai...’ a ysgrifennwyd ar y cyd gan Ceri Elen, tiwtor ar fodiwlau Sgriptio, Drama ac Ysgrifennu Creadigol yr Ysgol, ac Eilir Owen Griffiths. Mae’r ddrama gerdd yn olrhain bywydau trigolion Bae Caerdydd ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf sy’n awchu am gyfiawnder ar ôl cyfres o lofruddiaethau.


Dyma brosiect diweddaraf Ceri Elen ac Eilir Owen Griffiths, yn dilyn eu drama gerdd ‘Clymau’ a aeth ar daith yn 2009. Ar hyn o bryd mae myfyrwyr Coleg Prifysgol y Drindod ar daith o amgylch Cymru yn perfformio ‘Heb ei Fai...’.