Ymchwil
Trefnir gweithgareddau ymchwil CLlC oddi mewn i bedair prif ffrwd: Polisi Cyhoeddus, Economi Wleidyddol, Gwleidyddiaeth a Llywodraeth, a Chyfraith Cymru (gan gynnwys Deddfwriaeth Cymru Ar-lein).
Polisi Cyhoeddus
Arweiniodd dyfodiad llywodraeth ddatganolig at ddatblygu agenda polisi cyhoeddus neilltuol ar gyfer Cymru a gaiff ei olrhain a'i werthuso trwy waith CLlC.
Arweinir y ffrwd hon gan Dr Paul Chaney.
Economi Wleidyddol
Mae'r modd yr ariennir llywodraeth diriogaethol is-wladwriaethol yn gwestiwn holl-bwysig - ac yn bwnc llosg - nid yn unig yn y Deyrnas Gyfunol ond drwy weddill y byd. Trwy ein gweithgareddau yn y maes gobeithia CLlC gyfrannu at hyrwyddo a goleuo trafodaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Arweinir y ffrwd hon gan Dr Gillian Bristow
Gwleidyddiaeth a Llywodraeth
Mae datganoli wedi creu strwythyr lywodraethol a gwleidyddol newydd yng Nghymru, gan greu sefydliadau gwleidyddol gwahanol a chyfundrefn bleidiol neilltuol. Trwy ein gwaith mae CLlC yn olrhain ac yn asesu effaith datblygiadau cyfansoddiadol, sefydliadol a phleidiol yng Nghymru, gan geisio deall y cyfan oddi mewn i fframwaith gymharol ehangach.
Cyd-arweinwyr y ffrwd hon yw'r Athro Alistair Cole.
Cyfraith Cymru
Yn sgil datganoli mae Cymru'n prysur ddatblygu'n wlad ag iddi ei chyfraith gyhoeddus neilltuol yn ogystal â'i rhwydweithiau a'i sefydliadau cyfreithiol datganoledig ei hun. Ers blynyddoedd maith bu gwefan Deddfwriaeth Cymru Ar-lein yn adnodd amhrisiadwy wrth hysybsu cymdeithas sifig Gymreig ynglyn â'r datblygiadau deddfwriaethol a gafwyd yn sgil datganoli. Mae'n parhau'n un o gonglfeini gweithgareddau CLlC.
Arweinir y ffrwd hon gan Yr Athro Dan Wincott. Marie Navarro yw Uwch Ymchwilydd a Golygydd Deddfwriaeth Cymru Ar-lein.


