English

Skip to content
Skip to navigation menu

Ers ei sefydlu ym 1893, mae'r Ysgol Meddygaeth wedi ymrwymo i wella iechyd pobl drwy gyfrwng addysg ac ymchwil ac ymgysylltu â'r byd ehangach.

Erbyn hyn, yr Ysgol yw un o'r rhai mwyaf yn y Deyrnas Unedig ac mae'n gartref i fwy na 3000 o fyfyrwyr a staff.

Rydyn ni'n ganolfan ryngwladol o bwys ym myd addysgu ac ymchwil ac yn gymuned fywiog o gydymdrechu meddygol.

Yn ogystal â gwneud cyfraniad nodedig i fyd meddygaeth, byddwn ni'n chwarae rhan bwysig ym mywyd Cymru. Cartref yr Ysgol yw'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd a safleoedd eraill yng Nghymru. Byddwn ni'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r ffordd y caiff meddygaeth ei hymarfer ledled y wlad.

Sylw i… PETIC

Cyfeiriadur yr Ysgol

Y swyddfeydd gweinyddol a chymorth, yr adrannau academaidd, y grwpiau ymchwil a'r unedau eraill yn yr Ysgol.