Swyddi
Mae gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnig cydnabyddiaeth gystadleuol i chi, llu o fanteision trawiadol, datblygiad gyrfa ardderchog ac amgylchedd gwaith cadarnhaol.
Ni yw un o brifysgolion mwyaf arloesol, uchelgeisiol a llwyddiannus y DU ac rydym yn cydnabod bod ein llwyddiant yn dibynnu i raddau helaeth ar ymrwymiad, egni a brwdfrydedd ein pobl.
Ymunwch â ni i’n helpu i gyflawni ein huchelgais o fod yn un o brifysgolion mwyaf blaenllaw’r byd, sy'n rhagorol o ran ymchwil ac yn addysgol, a gaiff ei gyrru gan greadigrwydd a chwilfrydedd, ac sy’n bodloni ei rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru a'r byd.
Os ydych chi wedi cofrestru, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif i ddiweddaru eich manylion ac ymgeisio am swyddi.
Ymunwch â sefydliad sy’n cefnogi ei hacademyddion i sicrhau rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu.
I weld swyddi academaidd clinigol meddygol a deintyddol a chyfleoedd addysgu ac ymchwil yn y Brifysgol.
Ymunwch â sefydliad sydd yn broffesiynol, effeithlon ac effeithiol.
Rydym yn chwilio am arweinwyr profiadol a galluog i gyflwyno strategaethau a phrosiectau allweddol yn y Brifysgol.
Dysgwch mwy am y manteision fyddwch yn derbyn fel aelod o staff.
Ymunwch â ni ar LinkedIn i weld ein cyfleoedd diweddaraf.